5Monitro ac archwilio cydymffurfedd â thargedauLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau–
(a)ynghylch sut y mae cydymffurfedd ag unrhyw darged perthnasol i'w asesu;
(b)ynghylch trefniadau ar gyfer monitro ac archwilio cydymffurfedd ag unrhyw darged perthnasol;
(c)sy'n rhoi pwerau mynediad a phwerau arolygu mewn cysylltiad â'r monitro a'r archwilio hwnnw ar gyfer personau a awdurdodir gan Weinidogion Cymru;
(d)sy'n ei gwneud yn ofynnol i gofnodion gael eu cadw gan awdurdod lleol mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;
(e)sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu gan awdurdod lleol i bersonau penodedig ar ffurf benodedig neu mewn dull penodedig mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;
(f)sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei chyhoeddi mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;
(g)sy'n gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i dalu cosb os yw'n methu â chydymffurfio â gofyniad mewn rheoliadau o dan unrhyw un neu unrhyw rai o baragraffau (b) i (f).
(2)Yn yr adran hon, “targedau perthnasol” yw–
(a)targedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio o dan adran 3;
(b)unrhyw dargedau gwastraff o dan adran 4(1)(a).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)