9Rheoliadau sy'n gwahardd gollwng gwastraff ar safle tirlenwiLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng mathau penodedig o wastraff ar safle tirlenwi yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â'i wahardd neu ei reoleiddio.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)–
(a)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ac sy'n ymwneud â dull gweithredu safle tirlenwi;
(b)darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;
(c)darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny;
(d)darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau'r awdurdodau hynny.
(3)Yn is-adran (1), mae i “safle tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC dyddiedig 26 Ebrill 1999 am dirlenwi gwastraff [F1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan [F2Gyfarwyddeb (EU) 2018/850]] [F3, a’i darllen fel pe bai—
(a)yn Erthygl 2—
(i)y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (a)—
“(a)‘waste’ has the meaning given by Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive;”;
(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (c)—
“(c)‘hazardous waste’ has the meaning given in Article 3(2) of the Waste Framework Directive.”;
(b)yn Erthygl 3(2), “Without prejudice to existing Community legislation,” wedi ei hepgor.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 9(3) wedi eu mewnosod (22.3.2019) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/414), rhlau. 1(2)(a), 2(2)
F2Geiriau yn a. 9(3) wedi eu hamnewid (19.11.2020) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020 (O.S. 2020/1179), rhlau. 1(2), 2(2)
F3A. 9(3)(a)(b) ac geiriau wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/414), rhlau. 1(2)(b), 6(2); (as wedi eu hamnewid gan O.S. 2020/1339, rhlau. 1(3), 2(2)(a)); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 9 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)