Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynglŷn â statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru; i ddarparu ar gyfer Cyngor Partneriaeth y Gymraeg; i sefydlu Swydd Comisiynydd y Gymraeg; i ddarparu ar gyfer Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg; i wneud darpariaeth ynglŷn â hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg ac ynglŷn â pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; i wneud darpariaeth ynglŷn â safonau'n ymwneud â'r Gymraeg (gan gynnwys dyletswyddau i gydymffurfio â'r safonau hynny, a hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau hynny); i wneud darpariaeth ynglŷn ag ymchwilio i ymyrraeth â'r rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg; i sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg; i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a chynlluniau iaith Gymraeg; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Rhagfyr 2010 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 9 Chwefror 2011, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—