RHAN 10LL+CSTRATEGAETH IAITH GYMRAEG GWEINIDOGION CYMRU

148Gweinidogion Cymru i baratoi cynllun gweithreduLL+C

(1)Diwygier adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (8), mewnosoder—

(9)For each financial year, the Welsh Ministers must publish a plan setting out how they will implement the proposals set out in the Welsh language strategy during that year.

(10)The plan must be published as soon as reasonably practicable before the commencement of the financial year to which it relates.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 148 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 148 mewn grym ar 5.2.2012 gan O.S. 2012/223, ergl. 2(a)

149Cyngor Partneriaeth y GymraegLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal corff a enwir yn Gyngor Partneriaeth y Gymraeg (ac y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Cyngor Partneriaeth”).

(2)Yr aelodau canlynol fydd aelodau'r Cyngor Partneriaeth—

(a)pa un bynnag o Weinidogion Cymru sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg (ac ef sydd i gadeirio'r Cyngor Partneriaeth), a

(b)aelodau wedi eu penodi gan Weinidogion Cymru o blith—

(i)Gweinidogion Cymru,

(ii)Dirprwy Weinidogion Cymru,

(iii)personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddynt brofiad o faterion yn ymwneud â'r Gymraeg, a

(iv)personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddynt brofiad sy'n berthnasol i unrhyw un neu ragor o'r materion sydd wedi eu rhestru yn is-adran (6).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu pŵer i apwyntio aelodau o'r Cyngor Partneriaeth o dan is-adran (2)(b)(iii) a (iv), ystyried y ffaith ei bod yn ddymunol bod aelodaeth y Cyngor Partneriaeth yn adlewyrchu graddau amrywiol defnyddio'r Gymraeg gan drigolion Cymru.

(4)Mae trefniadaeth y Cyngor Partneriaeth i'w rheoleiddio gan reolau sefydlog sydd i'w gwneud gan Weinidogion Cymru ar ôl iddynt ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth.

(5)Caiff y rheolau sefydlog ddarparu pwy sydd i gadeirio'r Cyngor Partneriaeth yn absenoldeb pa un bynnag o Weinidogion Cymru sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.

(6)Caiff y Cyngor Partneriaeth—

(a)roi cyngor neu gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch y strategaeth iaith Gymraeg a fabwysiadwyd o dan adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gan gynnwys y cynllun sy'n nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn cyflawni'r cynigion a nodwyd yn y strategaeth), a

(b)gwneud unrhyw beth sy'n briodol ym marn y Cyngor at ddibenion rhoi'r cyngor hwnnw neu gyflwyno'r sylwadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 149 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 149 mewn grym ar 5.2.2012 gan O.S. 2012/223, ergl. 2(b)