RHAN 11ATODOL
150Gorchmynion a rheoliadau
1
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
2
Ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r canlynol gael ei wneud onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
a
gorchymyn o dan adran 20(4)(a) neu (b) (cymhwyso adran 20 i bersonau ac eithrio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru etc) sy'n diwygio darpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol;
b
gorchymyn o dan adran 21(7) (diwygio'r diffiniad o “ombwdsmon”);
c
gorchymyn o dan adran 21(8) (darpariaeth mewn cysylltiad â gorchymyn o dan adran 21(7)) sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol;
d
gorchymyn o dan adran 22(10) (diwygio'r diffiniad o “person a ganiatawyd”);
e
rheoliadau o dan adran 26(1) neu (2) (pennu safonau etc);
f
gorchymyn o dan adran 35 neu 38 (diwygio Atodlen 6 neu 8), ac eithrio gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth o dan yr adran honno y mae'r cyfan ohono'n ddarpariaeth o'r math a nodir yn is-adran (4);
g
rheoliadau o dan adran 39 (safonau sy'n benodol gymwys);
h
gorchymyn o dan adran 42 (diwygio Atodlen 9);
i
rheoliadau o dan adran 68 (rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd);
j
gorchymyn o dan adran 83(7) (newid uchafswm cosb sifil);
k
gorchymyn o dan adran 154 (darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc) sy'n cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, diddymu neu fel arall yn addasu deddfiad (ac eithrio deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth);
l
rheoliadau o dan baragraff 7(1) o Atodlen 1 (darpariaeth ynghylch penodi'r Comisiynydd);
m
gorchymyn o dan baragraff 8(1) o Atodlen 1 (arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan Weinidogion Cymru) sy'n diwygio'r Mesur hwn;
n
gorchymyn o dan baragraff 1 o Atodlen 5 (newid swm arian cyhoeddus a bennir yn y tabl yn Atodlen 5).
3
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn, ac eithrio offeryn nad yw ond yn cynnwys gorchymyn o dan adran 156 (cychwyn), yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
4
Darpariaeth sy'n diwygio cyfeiriad at berson yng nghofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu'r tabl yn Atodlen 8 o ganlyniad i newid enw'r person hwnnw yw'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2)(f).
5
Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
a
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol neu ardaloedd daearyddol gwahanol;
b
i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
c
i wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy'n angenrheidiol neu'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.
6
Mae pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 155(3) hefyd yn cynnwys, yn achos cychwyn diddymiad darpariaeth yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993, pŵer i ddarparu ar gyfer cychwyn gwahanol ar gyfer awdurdodaethau gwahanol.
7
Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw Deddf Senedd y DU neu un o Fesurau neu Ddeddfau'r Cynulliad.
151Cyfarwyddiadau
O ran unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn—
a
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;
b
rhaid ei roi'n ysgrifenedig;
c
caniateir iddo wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol; a
d
caniateir iddo wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol neu ardaloedd daearyddol gwahanol.
152Hysbysiadau etc
1
Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau a dogfennau eraill y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu rhoi o dan y Mesur hwn.
2
Caniateir rhoi hysbysiad neu ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei roi neu ei rhoi i'r Comisiynydd—
a
drwy ei draddodi neu ei thraddodi i'r Comisiynydd,
b
drwy ei anfon neu ei hanfon drwy'r post i brif swyddfa'r Comisiynydd, neu
c
yn ddarostyngedig i is-adran (3), drwy ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo'n electronig.
3
Dim ond os cafodd yr hysbysiad neu'r ddogfen ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo mewn modd y gall y Comisiynydd ei wneud yn ofynnol y caniateir i hysbysiad neu ddogfen gael ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo'n electronig.
4
Caniateir rhoi hysbysiad neu ddogfen y mae'n ofynnol i'r Comisiynydd ei roi neu ei rhoi, neu yr awdurdodir y Comisiynydd i'w roi neu i'w rhoi, i berson arall—
a
drwy ei draddodi neu ei thraddodi i'r person,
b
drwy ei anfon neu ei hanfon drwy'r post i'r cyfeiriad diweddaraf sy'n hysbys ar gyfer y person, neu
c
yn ddarostyngedig i is-adran (5), drwy ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo'n electronig.
5
Dim ond os bodlonir y gofynion canlynol y caiff y Comisiynydd roi hysbysiad neu ddogfen i berson drwy ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo'n electronig—
a
rhaid i'r person y mae'r hysbysiad neu'r ddogfen i'w roi neu i'w rhoi iddo fod wedi—
i
mynegi i'r Comisiynydd fod y person hwnnw'n fodlon derbyn yr hysbysiad neu'r ddogfen drwy ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo drwy gyfrwng electronig, a
ii
darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw i'r Comisiynydd, a
b
rhaid i'r Comisiynydd anfon yr hysbysiad neu'r ddogfen i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person hwnnw.
6
Caiff person fynegi, at ddibenion is-adran (4), ei fod yn fodlon derbyn—
a
hysbysiadau neu ddogfennau'n gyffredinol wedi eu trosglwyddo'n electronig, neu
b
hysbysiadau neu ddogfennau o ddisgrifiadau penodol wedi eu trosglwyddo'n electronig.
7
Nid yw'r adran hon yn hepgor unrhyw ddull arall o roi neu o anfon hysbysiad neu ddogfen na ddarperir yn benodol ar ei gyfer gan yr adran hon.
8
Nid yw gofyniad yn y Mesur hwn am i hysbysiad neu ddogfen fod yn ysgrifenedig yn atal yr adran hon rhag bod yn gymwys mewn perthynas â hi neu ag ef.
9
Nid yw gofyniad am i'r Comisiynydd roi hysbysiad neu ddogfen arall i berson yn gymwys os yw'r Comisiynydd o'r farn nad yw'n ymarferol rhoi'r hysbysiad hwnnw neu'r ddogfen honno i'r person hwnnw yn unol ag is-adran (4).
10
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth ynghylch y dyddiad y bernir bod hysbysiad wedi ei roi neu ddogfen wedi ei rhoi.
153Dehongli'r Mesur hwn
1
Yn y Mesur hwn—
ystyr “Comisiynydd” (“Commissioner”) yw Comisiynydd y Gymraeg (gweler Rhan 2);
mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys Mesur Cynulliad, Deddf Cynulliad, is-ddeddfwriaeth ac unrhyw ddeddfiad yn y dyfodol;
ystyr “Dirprwy Gomisiynydd” (“Deputy Commissioner”) yw Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (gweler adran 12);
ystyr “Llywydd” (“President”) yw Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg (gweler Rhan 7);
ystyr “Panel Cynghori” (“Advisory Panel”) yw Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (gweler Rhan 3);
ystyr “Rheolau'r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg (gweler Rhan 7);
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys y Gymraeg (gweler Rhan 7).
2
Yn y Mesur hwn mae cyfeiriadau at staff y Comisiynydd i'w dehongli'n unol ag adran 12(2).
154Darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud y cyfryw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig, a darpariaeth arall ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol mewn cysylltiad â'r Mesur hwn neu i roi llwyr effaith iddo.
2
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, diddymu neu fel arall yn addasu deddfiad, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
155Rhychwant
1
Mae'r Mesur hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr yn unig.
2
Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-adran (3).
3
Yr un yw rhychwant diddymiad i ddarpariaeth yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 â rhychwant y ddarpariaeth a gaiff ei diddymu.
156Cychwyn
1
Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—
a
Rhan 1;
b
y Rhan hon.
2
Yn ddarostyngedig i is-adran (1), daw'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
157Enw byr
Enw'r Mesur hwn yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.