xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob un o flynyddoedd ariannol y Comisiynydd (“adroddiad blynyddol”).
(2)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y materion a ganlyn—
(a)crynodeb o'r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd;
(b)adolygiad o faterion sy'n berthnasol i'r Gymraeg;
(c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd;
(d)cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol;
(e)crynodeb o'r cwynion a wnaed yn unol â'r weithdrefn a sefydlwyd o dan adran 14.
(3)Caiff adroddiad blynyddol hefyd gynnwys unrhyw faterion eraill y mae'n briodol eu cynnwys yn yr adroddiad yn nhyb y Comisiynydd.
(4)Am ddarpariaeth ynghylch blwyddyn ariannol y Comisiynydd, gweler paragraff 15 o Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 18 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(h)
(1)Wrth baratoi pob adroddiad blynyddol, caiff y Comisiynydd ymgynghori—
(a)â'r Panel Cynghori, a
(b)ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.
(2)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol yn Gymraeg ac yn Saesneg.
(3)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol sy'n dilyn y flwyddyn ariannol y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad blynyddol, rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)archwilio pob adroddiad blynyddol a gyflwynir iddynt, a
(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 19 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I4A. 19 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(h)