RHAN 4SAFONAU
PENNOD 2SAFONAU A PHENNU SAFONAU
Pennu safonau
I1I826Gweinidogion Cymru i bennu safonau
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
a
pennu un neu ragor o safonau cyflenwi gwasanaethau,
b
pennu un neu ragor o safonau llunio polisi,
c
pennu un neu ragor o safonau gweithredu,
d
pennu un neu ragor o safonau hybu, ac
e
pennu un neu ragor o safonau cadw cofnodion.
2
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth arall ynghylch y safonau hynny.
I2I927Pennu safonau: darpariaeth atodol
1
Dim ond os ymddengys i Weinidogion Cymru y byddai'r safon yn gwneud y canlynol y caiff Gweinidogion Cymru bennu safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion sy'n dod o fewn adran 32(1)(b)(ii) (cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg, ac eithrio cwynion yn ymwneud â chydymffurfedd person â safonau eraill)—
a
cynorthwyo Gweinidogion Cymru i arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Mesur hwn, neu
b
cynorthwyo'r Comisiynydd i arfer unrhyw swyddogaeth.
2
Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu gwahanol safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad gwahanol.
3
Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu, mewn perthynas ag ymddygiad penodol—
a
un safon o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, neu
b
nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.
4
Caiff safonau a bennir o dan adran 26(1), neu reoliadau o dan adran 26(2), ymdrin, ymhlith pethau eraill, ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
a
llunio gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, strategaethau neu gynlluniau'n nodi sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â'r safonau;
b
gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau;
c
casglu gwybodaeth gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, gan gynnwys gwybodaeth am ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg mewn perthynas ag ymddygiad penodol;
d
gwybodaeth y mae'n rhaid trefnu iddi fod ar gael i'r Comisiynydd;
e
trefniadau monitro a gofynion cyhoeddusrwydd;
f
gofynion adrodd.
Safonau cyflenwi gwasanaethau
I3I1028Safonau cyflenwi gwasanaethau
1
Yn y Mesur hwn ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon—
a
sy'n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, a
b
y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw.
2
Yn yr adran hon ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw—
a
cyflenwi gwasanaethau gan berson i berson arall, neu
b
delio gan berson ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—
i
i'r person arall hwnnw, neu
ii
i drydydd person.
Safonau llunio polisi
I4I1129Safonau llunio polisi
1
Yn y Mesur hwn ystyr “safon llunio polisi” yw safon—
a
sy'n ymwneud â phenderfyniad polisi, a
b
y bwriedir iddo sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, un neu ragor o'r canlyniadau a ganlyn.
2
Y cyntaf o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl, (a ph'un ai yw'r effeithiau'n bositif neu'n andwyol) y byddai'r penderfyniad polisi yn eu cael—
a
ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu
b
ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
3
Yr ail o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif—
a
ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu
b
ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
4
Y trydydd o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw'r penderfyniad yn cael effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol—
a
ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu
b
ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
5
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol.
6
Ystyr “penderfyniad polisi” yw penderfyniad gan berson—
a
ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau, neu
b
ynglŷn â chynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall.
Safonau gweithredu
I5I1230Safonau gweithredu
1
Yn y Mesur hwn ystyr “safon gweithredu” yw safon—
a
sy'n ymwneud â gweithgareddau perthnasol person (A), a
b
y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg—
i
gan A wrth i A wneud ei weithgareddau perthnasol,
ii
gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â'i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu
iii
gan berson heblaw A wrth iddo wneud gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â hwy.
2
Yn yr adran hon—
a
ystyr “gweithgareddau perthnasol” yw—
i
swyddogaethau, neu
ii
busnes neu ymgymeriad arall;
b
mae cyfeiriad at gyflawni gweithgareddau perthnasol yn gyfeiriad at—
i
arfer swyddogaethau, neu
ii
cynnal busnes neu ymgymeriad arall.
Safonau hybu
I6I1331Safonau hybu
Yn y Mesur hwn ystyr “safon hybu” yw safon (yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd) y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn ehangach.
Safonau cadw cofnodion
I7I1432Safonau cadw cofnodion
1
Yn y Mesur hwn ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy'n ymwneud â chadw—
a
cofnodion sy'n ymwneud â safonau penodedig eraill, a
b
cofnodion sy'n ymwneud—
i
â chwynion am gydymffurfedd person â safonau penodedig eraill, neu
ii
â chwynion eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
2
Yn yr adran hon ystyr “safon benodedig” yw safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).