RHAN 4SAFONAU
PENNOD 2SAFONAU A PHENNU SAFONAU
Pennu safonau
26Gweinidogion Cymru i bennu safonau
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
a
pennu un neu ragor o safonau cyflenwi gwasanaethau,
b
pennu un neu ragor o safonau llunio polisi,
c
pennu un neu ragor o safonau gweithredu,
d
pennu un neu ragor o safonau hybu, ac
e
pennu un neu ragor o safonau cadw cofnodion.
2
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth arall ynghylch y safonau hynny.
27Pennu safonau: darpariaeth atodol
1
Dim ond os ymddengys i Weinidogion Cymru y byddai'r safon yn gwneud y canlynol y caiff Gweinidogion Cymru bennu safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion sy'n dod o fewn adran 32(1)(b)(ii) (cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg, ac eithrio cwynion yn ymwneud â chydymffurfedd person â safonau eraill)—
a
cynorthwyo Gweinidogion Cymru i arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Mesur hwn, neu
b
cynorthwyo'r Comisiynydd i arfer unrhyw swyddogaeth.
2
Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu gwahanol safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad gwahanol.
3
Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu, mewn perthynas ag ymddygiad penodol—
a
un safon o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, neu
b
nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.
4
Caiff safonau a bennir o dan adran 26(1), neu reoliadau o dan adran 26(2), ymdrin, ymhlith pethau eraill, ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
a
llunio gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, strategaethau neu gynlluniau'n nodi sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â'r safonau;
b
gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau;
c
casglu gwybodaeth gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, gan gynnwys gwybodaeth am ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg mewn perthynas ag ymddygiad penodol;
d
gwybodaeth y mae'n rhaid trefnu iddi fod ar gael i'r Comisiynydd;
e
trefniadau monitro a gofynion cyhoeddusrwydd;
f
gofynion adrodd.