RHAN 4SAFONAU
PENNOD 3PERSONAU SY'N AGORED I ORFOD CYDYMFFURFIO Å SAFONAU
I1I433Personau sy'n agored i orfod cydymffurfio â safonau
1
Mae person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau os yw P—
a
yn dod o fewn Atodlen 5 a hefyd o fewn Atodlen 6, neu
b
yn dod o fewn Atodlen 7 a hefyd o fewn Atodlen 8.
2
Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
I2I534Personau sy'n dod o fewn Atodlenni 5, 6, 7 ac 8
1
Mae person yn dod o fewn Atodlen 5 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5.
2
Mae person yn dod o fewn Atodlen 6 os yw'r person—
a
yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 6, neu
b
yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.
3
Mae person yn dod o fewn Atodlen 7 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.
4
Mae person yn dod o fewn Atodlen 8 os yw'r person—
a
yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 8, neu
b
yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.
5
Nid yw newid enw person a bennir yn Atodlen 6 neu yn Atodlen 8 yn effeithio ar weithredu'r Mesur hwn mewn perthynas â'r person.
6
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu yn y tabl yn Atodlen 8 yn gyfeiriadau at y cofnod yn y tabl hwnnw (yng ngholofn (1)) sy'n pennu—
a
P, neu
b
categori o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.
7
Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.
I3I635Diwygio personau a chategorïau a bennir yn Atodlenni 6 ac 8
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.
2
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—
a
at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5, neu
b
at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5.
3
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).
4
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—
a
at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7, neu
b
at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7.
5
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).
6
Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â phwerau yn unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (5), at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad i'r pwerau hynny.
7
Yn yr adran hon—
ystyr “categori yn Atodlen 5” (“Schedule 5 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5;
ystyr “categori yn Atodlen 7” (“Schedule 7 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.