RHAN 4SAFONAU
PENNOD 6HYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO
Hysbysiadau cydymffurfio
I144Hysbysiadau cydymffurfio
1
Yn y Mesur hwn ystyr “hysbysiad cydymffurfio” yw hysbysiad a roddir i berson (P) gan y Comisiynydd—
a
sy'n nodi, neu'n cyfeirio at, un neu ragor o safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1), a
b
sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau a nodir neu y cyfeirir ati neu atynt.
2
Caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon benodol—
a
mewn rhai amgylchiadau, ond nid mewn amgylchiadau eraill;
b
mewn rhyw ardal neu rai ardaloedd, ond nid mewn ardaloedd eraill.
3
Os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod dwy neu ragor o safonau a bennir mewn perthynas ag ymddygiad penodol yn benodol gymwys i berson penodol, caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio—
a
ag un o'r safonau'n unig, neu
b
â gwahanol safonau—
i
ar adegau gwahanol;
ii
mewn amgylchiadau gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol);
iii
mewn ardaloedd gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol).
Rhoi hysbysiadau cydymffurfio
I245Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i unrhyw berson
1
Dim ond os yw person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3) y caiff y Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i P.
2
Dim ond os yw safon benodol a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)—
a
yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4), a
b
yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5),
y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i P nodi, neu gyfeirio at, safon benodol.
3
Os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio i P, rhaid i'r Comisiynydd hefyd—
a
rhoi copi o unrhyw god ymarfer perthnasol a ddyroddir o dan adran 68 i P, a
b
rhoi gwybod i P am yr hawl i herio o dan Bennod 7.
4
Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.
I346Diwrnodau gosod
1
Mae'r adran hon yn gymwys o ran pob safon a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio a roddir i berson.
2
Rhaid i'r hysbysiad ddatgan y diwrnod gosod neu'r diwrnodau gosod.
3
Rhaid i'r diwrnod gosod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau gosod, ddod ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
4
Yn yr adran hon ystyr “diwrnod gosod” o ran safon yw—
a
y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon, neu,
b
y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon mewn modd penodol.
5
Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.
I447Ymgynghori
1
Cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r person.
2
Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ymgynghori â pherson ar unrhyw fater os yw'r Comisiynydd wedi ei fodloni bod y person hwnnw eisoes wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y mater hwnnw, neu wedi cael cyfle i wneud hynny, mewn cysylltiad ag ymchwiliad safonau (gweler Pennod 8).
3
Nid yw methiant y person i gymryd rhan mewn ymgynghoriad yn atal y Comisiynydd rhag rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw.
I548Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr
1
Mae'r adran hon yn gymwys (ynghyd ag adrannau 45 a 46) mewn perthynas â pherson neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (y “gwasanaethau perthnasol”) o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wneir gydag awdurdod cyhoeddus (y “contract perthnasol”).
2
Dim ond—
a
os yw'n ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol wrth ddarparu'r gwasanaethau perthnasol i'r cyhoedd (neu y byddai wedi bod yn ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus wneud hynny pe bai'n darparu'r gwasanaethau hynny i'r cyhoedd),
b
os gwnaed y contract perthnasol ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus, ac
c
os yw diwrnod gosod y person neilltuedig yn dod ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus,
y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig nodi, neu gyfeirio at, safon benodol (y “safon berthnasol”) mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.
3
Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y gofyniad am i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol (sy'n codi yn rhinwedd bod hysbysiad cydymffurfio yn cael ei roi yn unol ag is-adran (2)) yr un fath â'r gofyniad, neu heb fod yn fwy na'r gofyniad, am i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon.
4
Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr adran hon ac yn Atodlen 8 yr un ystyr yn yr adran hon ag yn Atodlen 8.
5
Yn yr adran hon—
ystyr “diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus” (“public authority’s imposition day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, y mae'n ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol;
ystyr “diwrnod gosod y person neilltuedig” (“qualifying person’s imposition day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, a nodir yn yr hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig yn ddiwrnod y mae i fod yn ofynnol i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.
Amrywio hysbysiadau cydymffurfio
I649Amrywio hysbysiadau cydymffurfio
1
Caiff y Comisiynydd amrywio unrhyw hysbysiad cydymffurfio.
2
Mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag y maent yn gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio, ond dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad wedi ei amrywio.
3
Mae adran 48 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.
Dirymu hysbysiadau cydymffurfio
I750Dirymu hysbysiadau cydymffurfio
1
Caiff y Comisiynydd ddirymu unrhyw hysbysiad cydymffurfio.
2
Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys mewn achos pan fo'r Comisiynydd—
a
yn dirymu hysbysiad cydymffurfio a roddwyd i berson (yr “hen hysbysiad”), a
b
ar yr un pryd yn rhoi i'r person hwnnw hysbysiad cydymffurfio (yr “hysbysiad newydd”).
3
Dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad newydd yn wahanol i'r hen hysbysiad y mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran rhoi'r hysbysiad newydd.
4
Mae adran 48 yn gymwys o ran rhoi hysbysiad newydd yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.
Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grym
I851Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grym
1
Mae hysbysiad cydymffurfio a roddir i berson (P) mewn grym o'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i P gan y Comisiynydd.
2
Mae hysbysiad cydymffurfio yn aros mewn grym oni chaiff — a hyd oni chaiff — ei ddirymu.
3
Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.
Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio
I952Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio
1
Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phob hysbysiad cydymffurfio sydd mewn grym.
2
Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau, o'r diwrnod gosod perthnasol ymlaen—
a
bod copi o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a
b
y perir bod copïau o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.
3
Os bydd person yn gwneud cais i'r Comisiynydd o dan Bennod 7 mewn cysylltiad â safon rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y copïau o'r hysbysiad cydymffurfio y parwyd iddynt fod ar gael yn unol ag is-adran (2) yn nodi, hyd nes bod y cais wedi ei ddyfarnu'n derfynol—
a
bod y cais wedi ei wneud, a
b
nad yw'r gofyniad i gydymffurfio â'r safon yn gymwys, yn rhinwedd adran 60 (os dyna'r sefyllfa).
4
Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant mewn archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio.
5
Yn yr adran hon, ystyr “diwrnod gosod perthnasol” yw—
a
os dim ond un diwrnod gosod sydd wedi ei nodi mewn hysbysiad cydymffurfio, y diwrnod gosod hwnnw;
b
os oes dau neu ragor o ddiwrnodau gosod wedi eu nodi yn yr hysbysiad cydymffurfio, y cynharaf o'r diwrnodau hynny.
Gofyniad i gydymffurfio â safon yn dod i ben
I1053Gofyniad i gydymffurfio â safon yn dod i ben
1
Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw achos pan fydd person (P) yn peidio â bod o dan y ddyletswydd yn adran 25(1) i gydymffurfio â safon oherwydd—
a
bod un neu ragor o amodau 1 i 3 yn adran 25 yn peidio â chael ei fodloni neu eu bodloni, neu
b
bod y safon yn peidio â chael ei phennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).
2
Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r adran hon fod yn gymwys, rhaid i'r Comisiynydd, drwy arfer y pwerau a roddir gan y Bennod hon, sicrhau bod y newid a ddisgrifir yn is-adran (1) yn cael ei adlewyrchu yn yr hysbysiadau cydymffurfio (os bydd rhai) sy'n parhau mewn grym mewn perthynas â P.