Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfioLL+C

52Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phob hysbysiad cydymffurfio sydd mewn grym.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau, o'r diwrnod gosod perthnasol ymlaen—

(a)bod copi o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a

(b)y perir bod copïau o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(3)Os bydd person yn gwneud cais i'r Comisiynydd o dan Bennod 7 mewn cysylltiad â safon rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y copïau o'r hysbysiad cydymffurfio y parwyd iddynt fod ar gael yn unol ag is-adran (2) yn nodi, hyd nes bod y cais wedi ei ddyfarnu'n derfynol—

(a)bod y cais wedi ei wneud, a

(b)nad yw'r gofyniad i gydymffurfio â'r safon yn gymwys, yn rhinwedd adran 60 (os dyna'r sefyllfa).

(4)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant mewn archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “diwrnod gosod perthnasol” yw—

(a)os dim ond un diwrnod gosod sydd wedi ei nodi mewn hysbysiad cydymffurfio, y diwrnod gosod hwnnw;

(b)os oes dau neu ragor o ddiwrnodau gosod wedi eu nodi yn yr hysbysiad cydymffurfio, y cynharaf o'r diwrnodau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 52 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 52 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)