xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CSAFONAU

PENNOD 6LL+CHYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO

Rhoi hysbysiadau cydymffurfioLL+C

45Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i unrhyw bersonLL+C

(1)Dim ond os yw person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3) y caiff y Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i P.

(2)Dim ond os yw safon benodol a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)—

(a)yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4), a

(b)yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5),

y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i P nodi, neu gyfeirio at, safon benodol.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio i P, rhaid i'r Comisiynydd hefyd—

(a)rhoi copi o unrhyw god ymarfer perthnasol a ddyroddir o dan adran 68 i P, a

(b)rhoi gwybod i P am yr hawl i herio o dan Bennod 7.

(4)Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 45 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 45 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

46Diwrnodau gosodLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys o ran pob safon a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio a roddir i berson.

(2)Rhaid i'r hysbysiad ddatgan y diwrnod gosod neu'r diwrnodau gosod.

(3)Rhaid i'r diwrnod gosod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau gosod, ddod ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(4)Yn yr adran hon ystyr “diwrnod gosod” o ran safon yw—

(a)y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon, neu,

(b)y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon mewn modd penodol.

(5)Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 46 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 46 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

47YmgynghoriLL+C

(1)Cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r person.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ymgynghori â pherson ar unrhyw fater os yw'r Comisiynydd wedi ei fodloni bod y person hwnnw eisoes wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y mater hwnnw, neu wedi cael cyfle i wneud hynny, mewn cysylltiad ag ymchwiliad safonau (gweler Pennod 8).

(3)Nid yw methiant y person i gymryd rhan mewn ymgynghoriad yn atal y Comisiynydd rhag rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 47 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6A. 47 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

48Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyrLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys (ynghyd ag adrannau 45 a 46) mewn perthynas â pherson neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (y “gwasanaethau perthnasol”) o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wneir gydag awdurdod cyhoeddus (y “contract perthnasol”).

(2)Dim ond—

(a)os yw'n ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol wrth ddarparu'r gwasanaethau perthnasol i'r cyhoedd (neu y byddai wedi bod yn ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus wneud hynny pe bai'n darparu'r gwasanaethau hynny i'r cyhoedd),

(b)os gwnaed y contract perthnasol ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus, ac

(c)os yw diwrnod gosod y person neilltuedig yn dod ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus,

y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig nodi, neu gyfeirio at, safon benodol (y “safon berthnasol”) mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y gofyniad am i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol (sy'n codi yn rhinwedd bod hysbysiad cydymffurfio yn cael ei roi yn unol ag is-adran (2)) yr un fath â'r gofyniad, neu heb fod yn fwy na'r gofyniad, am i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon.

(4)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr adran hon ac yn Atodlen 8 yr un ystyr yn yr adran hon ag yn Atodlen 8.

(5)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 48 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8A. 48 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)