Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Valid from 07/07/2015

Adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

74Adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

(1)Yn y Mesur hwn, ystyr “adroddiad ar ymchwiliad” yw adroddiad ar ymchwiliad o dan adran 71 sy'n cynnwys pob un o'r canlynol—

(a)cylch gorchwyl yr ymchwiliad;

(b)crynodeb o'r dystiolaeth a gymerwyd yn ystod yr ymchwiliad;

(c)canfyddiadau'r Comisiynydd ar yr ymchwiliad;

(d)dyfarniad y Comisiynydd ar a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai peidio;

(e)datganiad ar a yw'r Comisiynydd am weithredu ymhellach;

(f)os yw'r Comisiynydd am weithredu ymhellach, datganiad ar y gweithredu hwnnw.

(2)Nid yw is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag cynnwys materion eraill mewn adroddiad ar ymchwiliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 74 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)