RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
Gorfodi gan lys sirol
I6I288Methiant i gydymffurfio â gofyniad i gymryd camau
1
Mae'r adran hon yn gymwys os bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd.
2
Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r gofyniad yn yr hysbysiad penderfynu.
3
Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad penderfynu.
I1I489Methiant i gydymffurfio â chynllun gweithredu
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw D wedi llunio cynllun gweithredu yn unol ag adran 80.
2
Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r cynllun gweithredu.
3
Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y daw'r cynllun gweithredu i rym.
I3I590Methiant i gydymffurfio â gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau i roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio.