RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
Rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio
81Rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio
(1)
Yn y Mesur hwn, mae cyfeiriadau at fod y Comisiynydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol yn gyfeiriadau at fod y Comisiynydd yn gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r naill a'r llall o'r canlynol—
(a)
cyhoeddi datganiad yn dweud bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;
(b)
cyhoeddi'r adroddiad ar yr ymchwiliad a luniwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad i D.
(2)
Yn y Mesur hwn, mae cyfeiriadau at fod gofyn i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol yn gyfeiriadau at fod gofyn i D roi cyhoeddusrwydd i unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r canlynol—
(a)
datganiad bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;
(b)
yr adroddiad ar yr ymchwiliad a luniwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad i D;
(c)
gwybodaeth arall sy'n ymwneud â methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.
82Ei gwneud yn ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys os bydd y Comisiynydd—
(a)
yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol, a
(b)
yn penderfynu gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r naill a'r llall o'r canlynol—
(i)
rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;
(ii)
ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.
(2)
Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan yr hyn y mae'r Comisiynydd—
(a)
i'w wneud er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D;
(b)
yn ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r methiant.
(3)
Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod i D—
(a)
beth fydd y canlyniadau os na fydd D yn cydymffurfio â gofyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr hysbysiad yn rhinwedd yr adran hon; a
(b)
am yr hawl i apelio o dan adran 95.
(4)
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
(5)
Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.