Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Yr adeg y bydd camau gorfodi yn dod yn effeithiolLL+C

87Yr adeg y bydd camau gorfodi yn dod yn effeithiolLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D yn nodi camau gorfodi y mae'r Comisiynydd wedi penderfynu eu cymryd mewn perthynas â dyfarniad o dan adran 73.

(2)Rhaid i D—

(a)paratoi cynllun gweithredu neu gymryd camau, neu

(b)rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio,

os yw'r hysbysiad penderfynu'n ei gwneud yn ofynnol i D wneud hynny, yn unol ag adran 79 neu 82.

(3)Rhaid i D dalu cosb sifil a nodir yn yr hysbysiad penderfynu yn unol ag adran 84.

(4)Ond dim ond ar ôl i'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud apêl berthnasol ddod i ben y mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys.

(5)Dim ond ar ôl i'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud apêl berthnasol ddod i ben y caiff y Comisiynydd roi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.

(6)Os gwneir apêl berthnasol, nid yw is-adrannau (2), (3) a (5) yn gymwys—

(a)oni fydd, a hyd oni fydd, yr apêl honno, ac unrhyw apêl bellach, wedi dod i ben yn derfynol, a

(b)o ran apêl bellach—

(i)oni na ellir, a hyd na ellir gwneud un, neu

(ii)oni na ellir, a hyd na ellir gwneud un heb ganiatâd y Tribiwnlys neu ganiatâd llys.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “apêl berthnasol” yw apêl i'r Tribiwnlys o dan adran 95 mewn cysylltiad â'r materion sydd wedi eu nodi yn yr hysbysiad penderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 87 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 87 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)