RHAN 6RHYDDID I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG
I1I10111Gwneud cais i'r Comisiynydd
1
Caiff unigolyn (P) wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ymchwilio i a yw person (D) wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg ag unigolyn arall (R) (“yr ymyrraeth honedig”).
2
Rhaid i gais o dan yr adran hon gydymffurfio â'r gofynion a ganlyn.
3
Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig oni bai bod amgylchiadau personol P yn golygu na fyddai'n rhesymol i P wneud cais yn ysgrifenedig.
4
Rhaid i'r cais roi cyfeiriad lle y caiff y Comisiynydd gysylltu â P (boed y cyfeiriad yn gyfeiriad post, electronig neu'n gyfeiriad o ddisgrifiad arall).
5
Rhaid i'r cais—
a
ei gwneud yn hysbys pwy yw D, a
b
ei gwneud yn hysbys beth yw'r ymyrraeth honedig.
I2I11112Cyfathrebiadau Cymraeg
Yn y Mesur hwn, ystyr “cyfathrebiad Cymraeg” yw cyfathrebiad yn Gymraeg rhwng dau unigolyn, y mae'r ddau ohonynt—
a
yng Nghymru, a
b
yn dymuno defnyddio'r Gymraeg gyda'i gilydd wrth ymgymryd â'r cyfathrebiad.
I3I12113Ymyrryd â rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg
1
At ddibenion y Mesur hwn, bernir bod D yn ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg ag R mewn unrhyw un neu ragor o'r achosion a ganlyn.
2
Achos 1 yw pan fo D yn mynegi na ddylai P neu R ymgymryd—
a
â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy'n gyfathrebiad Cymraeg, neu
b
â chategori o gyfathrebiadau Cymraeg sydd (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg.
3
Achos 2 yw pan fo D yn mynegi y bydd P neu R yn dioddef anfantais (drwy law D neu unrhyw berson arall) oherwydd bod P neu R wedi ymgymryd—
a
â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy'n gyfathrebiad Cymraeg, neu
b
â chategori o gyfathrebiadau Cymraeg sydd (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg.
4
Achos 3 yw pan fo D, neu berson sy'n gweithredu ar anogaeth D, yn peri bod P neu R yn dioddef anfantais oherwydd bod P neu R wedi ymgymryd—
a
â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy'n gyfathrebiad Cymraeg, neu
b
â chategori o gyfathrebiadau Cymraeg sydd (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg.
5
Ond, mewn achos sy'n dod o fewn is-adran (2)(b), (3)(b) neu (4)(b), dim ond i'r graddau y mae'r categori o gyfathrebiadau yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg y bernir bod D yn ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg.
6
At ddibenion is-adran (2), mae'r amgylchiadau lle y bernir bod D yn mynegi na ddylai P neu R ymgymryd â chyfathrebiad penodol, neu gategori o gyfathrebiadau, yn cynnwys yr amgylchiadau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
a
mae D yn dweud wrth P neu R am beidio ag ymgymryd â'r cyfathrebiad neu'r categori o gyfathrebiadau,
b
mae D yn mynegi y bydd P neu R yn dioddef anfantais (drwy law D neu unrhyw berson arall) os yw P neu R yn ymgymryd â'r cyfathrebiad neu'r categori o gyfathrebiadau, neu
c
mae D, neu berson sy'n gweithredu ar anogaeth D, yn peri bod P neu R yn dioddef anfantais mewn cysylltiad â bod P neu R yn ymgymryd â'r cyfathrebiad neu'r categori o gyfathrebiadau.
7
At ddibenion yr adran hon, mae'n amherthnasol—
a
a oes gan D neu unrhyw berson arall awdurdod i roi mynegiad ai peidio, a
b
a oes gan D neu unrhyw berson arall awdurdod i orfodi mynegiad ai peidio.
8
Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at fod P neu R yn dioddef anfantais yn cynnwys bygylu neu fwlio P neu R, aflonyddu arnynt neu eu bychanu.
I4I13114Penderfynu ai i ymchwilio ai peidio
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw P yn gwneud cais i'r Comisiynydd o dan adran 111.
2
Mater i'r Comisiynydd yw penderfynu ai i ymchwilio i'r ymyrraeth honedig ai peidio.
3
Wrth benderfynu ai i ymchwilio i'r ymyrraeth honedig ai peidio—
a
rhaid i'r Comisiynydd gymryd i ystyriaeth ym mha gyd-destun yr honnir bod yr ymyrraeth wedi digwydd (gan gynnwys y berthynas (os oes perthynas) sy'n bodoli rhwng D a P a rhwng D ac R, ond heb fod yn gyfyngedig i'r ddwy berthynas hyn);
b
caiff y Comisiynydd ofyn i P, D, neu i unrhyw berson arall, am wybodaeth neu holi ei farn ynghylch yr ymyrraeth honedig; ac
c
rhaid i'r Comisiynydd, os yw'n gofyn i P neu D am wybodaeth neu'n holi ei farn, roi i P neu D yr wybodaeth berthnasol am ymchwiliadau.
4
Nid yw is-adran (3) yn cyfyngu ar y materion y caiff y Comisiynydd eu hystyried wrth benderfynu ai i ymchwilio i'r ymyrraeth honedig ai peidio.
5
Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu ymchwilio i'r ymyrraeth honedig, rhaid iddo—
a
hysbysu P a D o'r penderfyniad, a
b
rhoi i P a D yr wybodaeth berthnasol am ymchwiliadau (i'r graddau nad yw'r Comisiynydd eisoes wedi rhoi'r wybodaeth o dan is-adran (3)(c)).
6
Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ymchwilio i'r ymyrraeth honedig, rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P—
a
o'r penderfyniad, a
b
o'r rhesymau dros ddod i'r penderfyniad.
7
Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (5) neu (6) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dod i'r penderfyniad o dan sylw.
8
Yn yr adran hon ystyr “gwybodaeth berthnasol am ymchwiliadau” yw gwybodaeth am—
a
y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliadau o dan y Rhan hon, a
b
pwerau'r Comisiynydd mewn perthynas â'r ymchwiliadau hynny (gan gynnwys y pŵer o dan adran 118 i lunio a chyhoeddi adroddiadau a dogfennau eraill, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny).
I5I14115Ymchwiliadau
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn penderfynu ymchwilio i'r ymyrraeth honedig.
2
Caiff y Comisiynydd ofyn i P, D, neu i unrhyw berson arall, am wybodaeth neu holi ei farn ynghylch yr ymyrraeth honedig.
3
Rhaid i'r Comisiynydd, i'r graddau y mae'n ymarferol, roi cyfle i D i ymateb i'r honiadau a wnaed gan P neu gan unrhyw berson arall.
I6I15116Terfynu ymchwiliadau
1
Caiff y Comisiynydd derfynu'r ymchwiliad i'r ymyrraeth honedig ar unrhyw adeg.
2
Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad, rhaid iddo—
a
hysbysu P a D o'r penderfyniad, a
b
hysbysu P o'r rhesymau dros ddod i'r penderfyniad.
3
Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dod i'r penderfyniad.
I7I16117Cwblhau ymchwiliadau
1
Mae'r adran hon yn gymwys—
a
os yw'r Comisiynydd yn penderfynu ymchwilio i'r ymyrraeth honedig, a
b
os nad yw'r Comisiynydd yn terfynu'r ymchwiliad.
2
Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg ai peidio.
3
Os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg, rhaid i'r Comisiynydd hefyd roi ei farn ar yr ymyrraeth (gan gynnwys ei farn ynghylch a ellid cyfiawnhau'r ymyrraeth, ond heb fod yn gyfyngedig i'w farn ar hynny).
4
Cyn bod y Comisiynydd yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (2) neu'n rhoi ei farn o dan is-adran (3), rhaid iddo—
a
hysbysu D o'r dyfarniad y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei wneud ac o'r farn y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei rhoi, a
b
cyn belled ag y bo'n ymarferol, rhoi cyfle i D ymateb i'r dyfarniad ac i'r farn sydd yn yr arfaeth.
5
Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P a D—
a
o'r dyfarniad ar y cais a wnaed gan P, a
b
o'i farn ar yr ymyrraeth, os dyfarniad bod D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg yw'r dyfarniad.
6
Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (5) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y dyfarniad.
7
Caiff y Comisiynydd roi i P, D, neu i unrhyw berson arall gyngor ynghylch—
a
yr ymyrraeth honedig, neu
b
unrhyw fater sy'n ymwneud â'r ymyrraeth honedig.
I8I17118Adroddiadau
1
Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw achos lle y gwneir cais o dan adran 111.
2
Caiff y Comisiynydd lunio, a rhoi i Weinidogion Cymru, adroddiad ar—
a
y cais, a
b
y camau a gymerwyd gan y Comisiynydd mewn ymateb i'r cais.
3
Rhaid i'r Comisiynydd roi copïau o unrhyw adroddiad o'r fath i P a D.
4
Caiff y Comisiynydd gyhoeddi—
a
adroddiad a roddir i Weinidogion Cymru o dan is-adran (2),
b
fersiwn o'r adroddiad hwnnw, neu
c
dogfen arall sy'n ymwneud (boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol) â phwnc yr adroddiad hwnnw,
(“dogfen gyhoeddus”), ond dim ond os bodlonir yr amodau canlynol.
5
Yr amod cyntaf yw bod y Comisiynydd—
a
yn hysbysu P a D o'r bwriad i gyhoeddi dogfen gyhoeddus, a
b
cyn belled ag y bo'n ymarferol, yn rhoi i P, D, neu i unrhyw berson arall y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn briodol, gyfle i roi i'r Comisiynydd farn am gyhoeddi dogfen gyhoeddus.
6
Yr ail amod yw—
a
bod P a D yn cytuno bod y ddogfen gyhoeddus yn cael ei chyhoeddi, neu
b
bod y Comisiynydd o'r farn ei bod er budd y cyhoedd i'r ddogfen gyhoeddus gael ei chyhoeddi.
7
Wrth bwyso a mesur a yw er budd y cyhoedd i'r ddogfen gyhoeddus gael ei chyhoeddi, rhaid i'r Comisiynydd gymryd i ystyriaeth, ymhlith pethau eraill—
a
buddiannau P a D, a
b
buddiannau unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol eu cymryd i ystyriaeth yn nhyb y Comisiynydd.
8
Yn achos unrhyw gais lle dyfarna'r Comisiynydd nad yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg, rhaid i ddogfen gyhoeddus beidio â'i gwneud yn hysbys pwy yw D.
I9I18119Adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru
1
Rhaid i'r Comisiynydd gynnwys, ym mhob adroddiad blynyddol a lunnir yn unol â Rhan 2, adroddiad—
a
ar y ceisiadau perthnasol a wnaed i'r Comisiynydd yn y cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef,
b
ar y camau a gymerwyd gan y Comisiynydd mewn ymateb i geisiadau perthnasol a wnaed yn y cyfnod hwnnw, ac
c
ar farn y Comisiynydd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith i warchod rhyddid personau yng Nghymru sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu â'i gilydd.
2
Wrth ffurfio barn at ddibenion is-adran (1)(c), mae'r materion y mae'n rhaid i'r Comisiynydd eu hystyried yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt—
a
pob cais perthnasol a wnaed oddi ar y dyddiad y daeth adran 111 i rym, a
b
pob cam a gymerwyd gan y Comisiynydd mewn ymateb i geisiadau perthnasol a wnaed oddi ar y dyddiad y daeth adran 111 i rym.
3
O ran unrhyw gais perthnasol lle y dyfarna'r Comisiynydd nad yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg, rhaid i'r materion a gynhwysir mewn adroddiad blynyddol yn unol â'r adran hon beidio â'i gwneud yn hysbys pwy yw D.
4
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth am adroddiadau o dan yr adran hon.
5
Yn yr adran hon ystyr “cais perthnasol” yw cais a wneir o dan adran 111.