RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
Y Tribiwnlys
I1120Tribiwnlys y Gymraeg
I251
Bydd yna Dribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Tribiwnlys”).
I162
Yr aelodau canlynol fydd aelodau'r Tribiwnlys—
a
Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Llywydd”);
b
aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith; ac
c
aelodau lleyg.
I163
Rhaid i Weinidogion Cymru benodi aelodau'r Tribiwnlys.
I15I174
Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y Tribiwnlys.
I2I26121Cyfansoddiad ar gyfer achosion gerbron y Tribiwnlys
1
Rhaid i'r Llywydd ddewis yr aelodau o'r Tribiwnlys sydd i ymdrin ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys.
2
Rhaid i'r Llywydd ddewis tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin â'r achosion.
3
Rhaid i'r Llywydd sicrhau bod—
a
o leiaf un o'r tri aelod yn aelod cyfreithiol, a
b
o leiaf un o'r tri aelod yn aelod lleyg.
4
Os dim ond un o'r tri aelod sy'n aelod cyfreithiol, yr aelod cyfreithiol hwnnw sydd i gadeirio'r achos.
5
Os oes mwy nag un o'r tri aelod yn aelodau cyfreithiol, mae'r Llywydd i ddewis yr aelod cyfreithiol sydd i gadeirio'r achos.
6
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.
7
Yn yr adran hon ystyr “aelod cyfreithiol” yw—
a
y Llywydd, neu
b
aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.
I3I27122Gwrandawiadau cyhoeddus
1
Mae achosion gerbron y Tribiwnlys i'w cynnal yn gyhoeddus.
2
Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.
Ymarferiad a threfniadaeth etc
I4I18123Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg
1
Rhaid i'r Llywydd wneud rheolau sy'n llywodraethu'r ymarferiad a'r drefniadaeth sydd i'w dilyn yn y Tribiwnlys.
2
Mae'r rheolau i'w galw'n “Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg” (ond cyfeirir atynt yn y Mesur hwn fel “Rheolau'r Tribiwnlys”).
3
Rhaid i Reolau'r Tribiwnlys gynnwys y canlynol—
a
darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(2) y tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin ag achosion;
b
darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(5) yr aelod cyfreithiol i gadeirio achosion;
c
darpariaeth ynghylch gwrthdrawiadau buddiant sy'n codi—
i
mewn perthynas â chyfranogiad aelodau o'r Tribiwnlys yn y gwaith o ddyfarnu achos, neu
ii
mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Llywydd o dan adran 121.
4
Caiff Rheolau'r Tribiwnlys, ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn—
a
arfer gan y Llywydd, neu gan yr aelod sy'n cadeirio unrhyw achosion, unrhyw swyddogaethau sy'n ymwneud â materion sy'n rhagarweiniol i'r achos neu'n gysylltiedig â'r achos;
b
cynnal achosion yn absenoldeb unrhyw aelod ac eithrio'r aelod sy'n eu cadeirio;
c
dadlennu neu archwilio dogfennau, a'r hawl i fanylion pellach y gallai llys sirol ei rhoi;
d
dyfarnu achosion heb wrandawiad mewn amgylchiadau a ragnodir yn Rheolau'r Tribiwnlys;
e
achosion gwacsaw neu flinderus;
f
caniatáu costau (gan gynnwys costau cosbedigol, ond heb eu cyfyngu i hynny) neu dreuliau;
g
asesu'r costau neu'r treuliau hynny neu eu setlo fel arall (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi asesu'r costau hynny yn y llys sirol);
h
cyhoeddi adroddiadau ynghylch penderfyniadau'r Tribiwnlys;
i
pwerau'r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, yn yr amgylchiadau a gaiff eu pennu'n unol â Rheolau'r Tribiwnlys;
j
y dyddiad y bernir bod hysbysiad wedi ei roi gan y Tribiwnlys.
5
Mae'r pŵer i wneud Rheolau'r Tribiwnlys yn cynnwys pŵer—
a
i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, a
b
i roi swyddogaethau i'r Llywydd neu i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.
6
Rhaid i'r Llywydd gyflwyno Rheolau'r Tribiwnlys i Weinidogion Cymru.
7
Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod Rheolau'r Tribiwnlys a gyflwynir iddynt.
8
O ran rheolau a ganiateir gan Weinidogion Cymru—
a
deuant i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru'n ei gyfarwyddo, a
b
maent i'w cynnwys mewn offeryn statudol y mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys iddo fel pe bai'r offeryn yn cynnwys rheolau a wneir gan Weinidogion Cymru.
9
Mae offeryn statudol sy'n cynnwys rheolau a wneir gan y Llywydd yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
I5I19124Cyfarwyddiadau ymarfer
1
Caiff y Llywydd roi cyfarwyddiadau ynghylch ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys.
2
Ond ni chaiff y Llywydd roi cyfarwyddiadau ymarfer onid ydynt wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
3
Nid yw is-adran (2) yn gymwys i gyfarwyddiadau ymarfer i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau hynny'n ymwneud â—
a
cymhwyso neu ddehongli'r gyfraith, neu
b
gwneud penderfyniadau gan aelodau o'r Tribiwnlys.
4
Mae'r pŵer o dan yr adran hon i roi cyfarwyddiadau ymarfer yn cynnwys—
a
pŵer i amrywio neu ddirymu cyfarwyddiadau ymarfer a roddir wrth arfer y pŵer, a
b
pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
I6I20125Canllawiau, cyngor a gwybodaeth
1
Caiff y Llywydd roi canllawiau i aelodau eraill o'r Tribiwnlys mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau fel aelodau o'r Tribiwnlys.
2
Rhaid i aelod o'r Tribiwnlys roi sylw i'r canllawiau hynny wrth arfer y swyddogaethau hynny.
3
Caiff y Llywydd roi cyngor a gwybodaeth mewn cysylltiad â'r Tribiwnlys a'i swyddogaethau (gan gynnwys ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys, ond heb ei gyfyngu iddynt).
4
Caiff y Llywydd roi'r cyngor hwnnw—
a
i bersonau penodol, neu
b
yn fwy cyffredinol.
I7I28126Pwerau atodol
1
Mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yn is-adran (2), mae gan y Tribiwnlys yr un pwerau, hawliau, breintiau ac awdurdod â'r Uchel Lys.
2
Dyma'r materion—
a
presenoldeb tystion a'u holi,
b
cyflwyno ac archwilio dogfennau, ac
c
pob mater arall sy'n gysylltiedig â swyddogaethau'r Tribiwnlys.
3
Nid yw is-adran (1)—
a
yn cyfyngu ar unrhyw bŵer i wneud Rheoliadau'r Tribiwnlys, neu
b
wedi ei chyfyngu gan unrhyw beth yn Rheoliadau'r Tribiwnlys, ac eithrio cyfyngiad penodol.
4
Caiff y Tribiwnlys gyfarwyddo bod parti neu dyst i'w holi ar lw neu gadarnhad.
5
Caiff y Tribiwnlys weinyddu unrhyw lw, neu gymryd unrhyw gadarnhad, sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.
Staff ac adnoddau eraill
I8I21127Staff, adeiladau ac adnoddau eraill y Tribiwnlys
1
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod gan y Tribiwnlys y canlynol—
a
staff,
b
adeiladau, ac
c
adnoddau ariannol ac adnoddau eraill,
sy'n briodol i'r Tribiwnlys er mwyn iddo arfer ei swyddogaethau.
2
Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu pa staff, adeiladau, adnoddau ariannol ac adnoddau eraill sy'n briodol at y diben hwnnw.
3
Caniateir i Weinidogion Cymru fodloni'r ddyletswydd o dan is-adran (1)—
a
drwy ddarparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill, neu
b
drwy wneud trefniadau gydag unrhyw berson arall ar gyfer darparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill.
4
Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i staff y Tribiwnlys.
5
Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i staff y Tribiwnlys.
6
Caiff Gweinidogion Cymru dalu—
a
pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn perthynas â hwy, a
b
symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.
I9I22128Cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig
1
Caiff y Llywydd benodi cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig i ddarparu cymorth i'r Tribiwnlys (boed mewn perthynas ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys neu fel arall).
2
Caiff y Llywydd dalu tâl cydnabyddiaeth i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.
3
Caiff y Llywydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.
4
Ond rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo swm unrhyw dâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu arian rhodd sy'n daladwy i gynghorydd sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig cyn i'r Llywydd dalu'r tâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu'r arian rhodd, neu gytuno i'w talu.
Materion gweinyddol
I10I29129Y sêl
1
Mae'r Tribiwnlys i gael sêl swyddogol.
2
Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys i'w derbyn yn dystiolaeth yng Nghymru a Lloegr heb brawf pellach.
3
Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os dangosir nad yw'r ddogfen yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys.
I11I30130Y flwyddyn ariannol
1
Blwyddyn ariannol gyntaf y Tribiwnlys yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—
a
y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu
b
yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).
2
Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Tribiwnlys yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.
3
Yn yr adran hon ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 120 i rym.
I12I23131Swydd y Llywydd yn wag
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw swydd y Llywydd yn wag.
2
Caiff Gweinidogion Cymru benodi un neu ragor o aelodau'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith i arfer unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Llywydd.
3
Os na fydd, neu i'r graddau na fydd, swyddogaethau'r Llywydd yn arferadwy gan aelod sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn unol ag is-adran (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaethau.
4
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd rhan yn y gwaith o ddyfarnu unrhyw achosion gerbron y Tribiwnlys.
Adroddiadau, adolygiadau a pherfformiad
I13I31132Adroddiad blynyddol y Llywydd
1
Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Llywydd—
a
llunio adroddiad ar y modd y mae'r Tribiwnlys wedi arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol honno, a
b
gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2
Rhaid i'r Llywydd gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch ffurf yr adroddiad ac ynghylch ei osod.
I14I24133Hyfforddiant etc ar gyfer aelodau'r Tribiwnlys
1
Rhaid i'r Llywydd gynnal trefniadau priodol ar gyfer hyfforddiant, arweiniad a lles aelodau'r Tribiwnlys.
2
Y Llywydd sydd i benderfynu pa drefniadau sy'n briodol at y diben hwnnw.