RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
Materion gweinyddol
I1I5129Y sêl
1
Mae'r Tribiwnlys i gael sêl swyddogol.
2
Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys i'w derbyn yn dystiolaeth yng Nghymru a Lloegr heb brawf pellach.
3
Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os dangosir nad yw'r ddogfen yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys.
I2I6130Y flwyddyn ariannol
1
Blwyddyn ariannol gyntaf y Tribiwnlys yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—
a
y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu
b
yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).
2
Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Tribiwnlys yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.
3
Yn yr adran hon ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 120 i rym.
I3I4131Swydd y Llywydd yn wag
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw swydd y Llywydd yn wag.
2
Caiff Gweinidogion Cymru benodi un neu ragor o aelodau'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith i arfer unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Llywydd.
3
Os na fydd, neu i'r graddau na fydd, swyddogaethau'r Llywydd yn arferadwy gan aelod sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn unol ag is-adran (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaethau.
4
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd rhan yn y gwaith o ddyfarnu unrhyw achosion gerbron y Tribiwnlys.