RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Staff ac adnoddau eraill

I1127Staff, adeiladau ac adnoddau eraill y Tribiwnlys

1

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod gan y Tribiwnlys y canlynol—

a

staff,

b

adeiladau, ac

c

adnoddau ariannol ac adnoddau eraill,

sy'n briodol i'r Tribiwnlys er mwyn iddo arfer ei swyddogaethau.

2

Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu pa staff, adeiladau, adnoddau ariannol ac adnoddau eraill sy'n briodol at y diben hwnnw.

3

Caniateir i Weinidogion Cymru fodloni'r ddyletswydd o dan is-adran (1)—

a

drwy ddarparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill, neu

b

drwy wneud trefniadau gydag unrhyw berson arall ar gyfer darparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill.

4

Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i staff y Tribiwnlys.

5

Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i staff y Tribiwnlys.

6

Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

a

pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn perthynas â hwy, a

b

symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 127 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2128Cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig

1

Caiff y Llywydd benodi cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig i ddarparu cymorth i'r Tribiwnlys (boed mewn perthynas ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys neu fel arall).

2

Caiff y Llywydd dalu tâl cydnabyddiaeth i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

3

Caiff y Llywydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

4

Ond rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo swm unrhyw dâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu arian rhodd sy'n daladwy i gynghorydd sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig cyn i'r Llywydd dalu'r tâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu'r arian rhodd, neu gytuno i'w talu.