Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Ymarferiad a threfniadaeth etcLL+C

123Rheolau Tribiwnlys y GymraegLL+C

(1)Rhaid i'r Llywydd wneud rheolau sy'n llywodraethu'r ymarferiad a'r drefniadaeth sydd i'w dilyn yn y Tribiwnlys.

(2)Mae'r rheolau i'w galw'n “Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg” (ond cyfeirir atynt yn y Mesur hwn fel “Rheolau'r Tribiwnlys”).

(3)Rhaid i Reolau'r Tribiwnlys gynnwys y canlynol—

(a)darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(2) y tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin ag achosion;

(b)darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(5) yr aelod cyfreithiol i gadeirio achosion;

(c)darpariaeth ynghylch gwrthdrawiadau buddiant sy'n codi—

(i)mewn perthynas â chyfranogiad aelodau o'r Tribiwnlys yn y gwaith o ddyfarnu achos, neu

(ii)mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Llywydd o dan adran 121.

(4)Caiff Rheolau'r Tribiwnlys, ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn—

(a)arfer gan y Llywydd, neu gan yr aelod sy'n cadeirio unrhyw achosion, unrhyw swyddogaethau sy'n ymwneud â materion sy'n rhagarweiniol i'r achos neu'n gysylltiedig â'r achos;

(b)cynnal achosion yn absenoldeb unrhyw aelod ac eithrio'r aelod sy'n eu cadeirio;

(c)dadlennu neu archwilio dogfennau, a'r hawl i fanylion pellach y gallai llys sirol ei rhoi;

(d)dyfarnu achosion heb wrandawiad mewn amgylchiadau a ragnodir yn Rheolau'r Tribiwnlys;

(e)achosion gwacsaw neu flinderus;

(f)caniatáu costau (gan gynnwys costau cosbedigol, ond heb eu cyfyngu i hynny) neu dreuliau;

(g)asesu'r costau neu'r treuliau hynny neu eu setlo fel arall (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi asesu'r costau hynny yn y llys sirol);

(h)cyhoeddi adroddiadau ynghylch penderfyniadau'r Tribiwnlys;

(i)pwerau'r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, yn yr amgylchiadau a gaiff eu pennu'n unol â Rheolau'r Tribiwnlys;

(j)y dyddiad y bernir bod hysbysiad wedi ei roi gan y Tribiwnlys.

(5)Mae'r pŵer i wneud Rheolau'r Tribiwnlys yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, a

(b)i roi swyddogaethau i'r Llywydd neu i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

(6)Rhaid i'r Llywydd gyflwyno Rheolau'r Tribiwnlys i Weinidogion Cymru.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod Rheolau'r Tribiwnlys a gyflwynir iddynt.

(8)O ran rheolau a ganiateir gan Weinidogion Cymru—

(a)deuant i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru'n ei gyfarwyddo, a

(b)maent i'w cynnwys mewn offeryn statudol y mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys iddo fel pe bai'r offeryn yn cynnwys rheolau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(9)Mae offeryn statudol sy'n cynnwys rheolau a wneir gan y Llywydd yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 123 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 123 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(d)

F1124Cyfarwyddiadau ymarferLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1A. 124 wedi ei hepgor (dod i rym yn unol â rhl. 2(1) o’r O.S. cychwyn) yn rhinwedd Wales Act 2017 (c. 4), a. 71(4), Atod. 6 para. 92 (ynghyd ag Atod. 7 parau. 1, 6); O.S. 2017/351, rhl. 2(2)

125Canllawiau, cyngor a gwybodaethLL+C

(1)Caiff y Llywydd roi canllawiau i aelodau eraill o'r Tribiwnlys mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau fel aelodau o'r Tribiwnlys.

(2)Rhaid i aelod o'r Tribiwnlys roi sylw i'r canllawiau hynny wrth arfer y swyddogaethau hynny.

(3)Caiff y Llywydd roi cyngor a gwybodaeth mewn cysylltiad â'r Tribiwnlys a'i swyddogaethau (gan gynnwys ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys, ond heb ei gyfyngu iddynt).

(4)Caiff y Llywydd roi'r cyngor hwnnw—

(a)i bersonau penodol, neu

(b)yn fwy cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 125 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 125 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(f)

126Pwerau atodolLL+C

(1)Mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yn is-adran (2), mae gan y Tribiwnlys yr un pwerau, hawliau, breintiau ac awdurdod â'r Uchel Lys.

(2)Dyma'r materion—

(a)presenoldeb tystion a'u holi,

(b)cyflwyno ac archwilio dogfennau, ac

(c)pob mater arall sy'n gysylltiedig â swyddogaethau'r Tribiwnlys.

(3)Nid yw is-adran (1)—

(a)yn cyfyngu ar unrhyw bŵer i wneud Rheoliadau'r Tribiwnlys, neu

(b)wedi ei chyfyngu gan unrhyw beth yn Rheoliadau'r Tribiwnlys, ac eithrio cyfyngiad penodol.

(4)Caiff y Tribiwnlys gyfarwyddo bod parti neu dyst i'w holi ar lw neu gadarnhad.

(5)Caiff y Tribiwnlys weinyddu unrhyw lw, neu gymryd unrhyw gadarnhad, sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 126 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6A. 126 mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2