(1)Diddymir Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
(2)Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf 1993 i'r Comisiynydd.
(3)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 154 sy'n darparu i'r swyddogaethau hynny gael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru (boed yn lle trosglwyddo'r swyddogaethau i'r Comisiynydd neu'n ychwanegol at wneud hynny).
(4)Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan Ran 2 o Ddeddf 1993 i'r Comisiynydd.
(5)Diddymir darpariaethau canlynol Deddf 1993—
(a)adran 1;
(b)adran 2;
(c)adran 4(2);
(d)adran 34(2);
(e)Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 143 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 143 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(p)
(1)Diddymir y swyddogaethau a roddwyd gan adran 3 o Ddeddf 1993 (ac a drosglwyddwyd fel a grybwyllir yn adran 143).
(2)Mae Rhan 2 o Ddeddf 1993 yn peidio â bod yn gymwys i berson os daw'r person hwnnw, a phan ddaw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig am y tro cyntaf i'r ddyletswydd o dan adran 25(1) o'r Mesur hwn i gydymffurfio â safon.
(3)Diddymir darpariaethau canlynol Deddf 1993—
(a)adran 3;
(b)adran 4(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 144 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I4A. 144(1) mewn grym ar 1.6.2012 gan O.S. 2012/1423, ergl. 2(b)
I5A. 144(1)(3)(a) mewn grym ar 7.7.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(e)
I6A. 144(2) mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(e)
I7A. 144(3)(a) mewn grym ar 1.6.2012 gan O.S. 2012/1423, ergl. 2(c)
I8A. 144(3)(a) mewn grym ar 6.7.2015 i 'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1413, ergl. 2(a)
I9A. 144(3)(b) mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(p)
(1)Diddymir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan Ran 2 o Ddeddf 1993 (ac a drosglwyddwyd fel a grybwyllir yn adran 143).
(2)Diddymir darpariaethau canlynol Deddf 1993—
(a)Rhan 2;
(b)adran 34(1) a (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 145 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I11A. 145(2) mewn grym ar 6.7.2015 i 'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1413, ergl. 2(b)
Mae Atodlen 12 yn cynnwys darpariaeth arall sy'n ymwneud â diddymu'r Bwrdd.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 146 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I13A. 146 mewn grym ar 28.6.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(d)
I14A. 146 mewn grym ar 1.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/969, ergl. 2(a)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn at ddibenion dwyn i rym unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn sy'n ymwneud â'r Comisiynydd er mwyn galluogi swyddogaethau'r Bwrdd i gael eu trosglwyddo i'r Comisiynydd a bod yn arferadwy ganddo cyn bod unrhyw swyddogaeth newydd yn arferadwy gan y Comisiynydd (p'un a ddaw unrhyw swyddogaeth newydd yn arferadwy ar ôl hynny ai peidio tra bydd unrhyw swyddogaeth a drosglwyddwyd yn parhau i fod yn arferadwy).
(2)At y diben hwnnw ystyr “swyddogaeth newydd” yw swyddogaeth a roddir i'r Comisiynydd gan ddarpariaeth mewn unrhyw Ran arall o'r Mesur hwn.
(3)Nid yw'r Rhan hon yn cyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn (ac yn unol â hynny ceir defnyddio'r pwerau hynny i wneud darpariaeth yn ychwanegol at ddarpariaeth neu yn lle darpariaeth yn y Rhan hon).
(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at bwerau Gweinidogion Cymru o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn yn cynnwys eu pwerau o dan—
(a)adran 154 (darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc), a
(b)adran 156(2) (cychwyn),
ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.
(5)Yn y Rhan hon—
ystyr “y Bwrdd” (“Board”) yw Bwrdd yr Iaith Gymraeg;
ystyr “Deddf 1993” (“1993 Act”) yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 147 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I16A. 147 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(p)