RHAN 9BYRDD IAITH GYMRAEG, CYNLLUNIAU IAITH GYMRAEG ETC
143Diddymu'r Bwrdd a throsglwyddo swyddogaethau
1
Diddymir Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
2
Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf 1993 i'r Comisiynydd.
3
Ond mae hynny'n ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 154 sy'n darparu i'r swyddogaethau hynny gael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru (boed yn lle trosglwyddo'r swyddogaethau i'r Comisiynydd neu'n ychwanegol at wneud hynny).
4
Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan Ran 2 o Ddeddf 1993 i'r Comisiynydd.
5
Diddymir darpariaethau canlynol Deddf 1993—
a
adran 1;
b
adran 2;
c
adran 4(2);
d
adran 34(2);
e
Atodlen 1.
144Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau
1
Diddymir y swyddogaethau a roddwyd gan adran 3 o Ddeddf 1993 (ac a drosglwyddwyd fel a grybwyllir yn adran 143).
2
Mae Rhan 2 o Ddeddf 1993 yn peidio â bod yn gymwys i berson os daw'r person hwnnw, a phan ddaw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig am y tro cyntaf i'r ddyletswydd o dan adran 25(1) o'r Mesur hwn i gydymffurfio â safon.
3
Diddymir darpariaethau canlynol Deddf 1993—
a
adran 3;
b
adran 4(1).
145Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau
1
Diddymir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan Ran 2 o Ddeddf 1993 (ac a drosglwyddwyd fel a grybwyllir yn adran 143).
2
Diddymir darpariaethau canlynol Deddf 1993—
a
Rhan 2;
b
adran 34(1) a (3).
146Darpariaeth arall
Mae Atodlen 12 yn cynnwys darpariaeth arall sy'n ymwneud â diddymu'r Bwrdd.
147Atodol
1
Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn at ddibenion dwyn i rym unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn sy'n ymwneud â'r Comisiynydd er mwyn galluogi swyddogaethau'r Bwrdd i gael eu trosglwyddo i'r Comisiynydd a bod yn arferadwy ganddo cyn bod unrhyw swyddogaeth newydd yn arferadwy gan y Comisiynydd (p'un a ddaw unrhyw swyddogaeth newydd yn arferadwy ar ôl hynny ai peidio tra bydd unrhyw swyddogaeth a drosglwyddwyd yn parhau i fod yn arferadwy).
2
At y diben hwnnw ystyr “swyddogaeth newydd” yw swyddogaeth a roddir i'r Comisiynydd gan ddarpariaeth mewn unrhyw Ran arall o'r Mesur hwn.
3
Nid yw'r Rhan hon yn cyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn (ac yn unol â hynny ceir defnyddio'r pwerau hynny i wneud darpariaeth yn ychwanegol at ddarpariaeth neu yn lle darpariaeth yn y Rhan hon).
4
Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at bwerau Gweinidogion Cymru o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn yn cynnwys eu pwerau o dan—
a
adran 154 (darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc), a
b
adran 156(2) (cychwyn),
ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.
5
Yn y Rhan hon—
ystyr “y Bwrdd” (“Board”) yw Bwrdd yr Iaith Gymraeg;
ystyr “Deddf 1993” (“1993 Act”) yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.