ATODLEN 1COMISIYNYDD Y GYMRAEG

RHAN 5MATERION ARIANNOL

Swyddog cyfrifyddu

16

(1)

Y Comisiynydd yw'r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa'r Comisiynydd.

(2)

Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid swyddfa'r Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i'w gilydd gan y Trysorlys.

(3)

Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys, ymysg pethau eraill—

(a)

cyfrifoldebau o ran llofnodi cyfrifon,

(b)

cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd, ac

(c)

cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau'r Comisiynydd.

(4)

Mae'r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gyfrifoldebau sy'n ddyledus i'r canlynol—

(a)

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

(b)

Tŵ'r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŵ hwnnw.

(5)

Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŵ'r Cyffredin (“y Pwyllgor Seneddol”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)

cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran y Pwyllgor Seneddol,

(b)

cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Seneddol ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac

(c)

trosglwyddo'r dystiolaeth a gymerwyd i'r Pwyllgor Seneddol.

(6)

Mae adran 13 o Ddeddf Archwiliadau Cenedlaethol 1983 (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŵ'r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn yn yr un modd ag y mae'n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.

(7)

Yn y paragraff hwn ystyr “swyddfa'r Comisiynydd” yw'r Comisiynydd a staff y Comisiynydd.