CyfrifonLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
18(1)Rhaid i'r Comisiynydd—
(a)cadw cofnodion cyfrifyddol priodol, a
(b)llunio cyfrifon o ran pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddiadau a roddir, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.
(2)Mae'r cyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi o dan y paragraff hwn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gyfarwyddiadau o ran—
(a)yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cyfrifon a'r modd y mae'r cyfrifon i'w cyflwyno;
(b)y dulliau a'r egwyddorion y mae'r cyfrifon i'w llunio yn unol â hwy;
(c)gwybodaeth ychwanegol (os o gwbl) sydd i fynd gyda'r cyfrifon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)