ATODLEN 1COMISIYNYDD Y GYMRAEG

RHAN 2PENODI

I1I23Penodi

1

Pan fydd Prif Weinidog Cymru'n penodi'r Comisiynydd—

a

rhaid iddo gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 7),

b

rhaid iddo roi sylw i'r argymhellion a wnaed gan y panel dethol ynglŷn â'r penodiad (gweler paragraff 7), ac

c

caiff ystyried barn unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

2

Ni chaiff Prif Weinidog Cymru benodi person yn Gomisiynydd—

a

os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth (gweler paragraff 13), neu

b

os cafodd y person hwnnw ei benodi'n Gomisiynydd o'r blaen.

3

Mae'r farn y caiff Prif Weinidog Cymru ei hystyried o dan is-baragraff (1)(c) yn cynnwys barn y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—

a

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

b

pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, ac

c

aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.