ATODLEN 1COMISIYNYDD Y GYMRAEG
RHAN 2PENODI
I2I17Rheoliadau penodi
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi'r Comisiynydd (“rheoliadau penodi”).
2
Rhaid i'r rheoliadau penodi wneud darpariaeth ar gyfer sefydlu panel o bersonau (“panel dethol”) sydd i wneud y canlynol—
a
cyf-weld ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd, a
b
gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynglŷn â'r penodiad.
3
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi'n cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (4) i (7), ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.
4
Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi'r Comisiynydd.
5
Caiff rheoliadau penodi ddarparu ynghylch—
a
gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi, a
b
gwybodaeth a phrofiad o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau mewn cysylltiad â hwy,
sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i'r Comisiynydd feddu arno.
6
Caiff rheoliadau penodi—
a
cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu
b
gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.
7
Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru neu i Brif Weinidog Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.