8(1)Caiff Prif Weinidog Cymru drwy orchymyn—
(a)darparu bod Gweinidogion Cymru'n arfer—
(i)swyddogaeth Prif Weinidog Cymru o benodi'r Comisiynydd, a
(ii)unrhyw un neu rai neu'r oll o swyddogaethau eraill Prif Weinidog Cymru sy'n ymwneud â'r Comisiynydd, a
(b)gwneud darpariaeth arall gysylltiedig sy'n briodol yn nhyb Prif Weinidog Cymru.
(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn o dan y paragraff hwn yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio neu'n addasu'r Mesur hwn fel arall, ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(a)