RHAN 3LL+CTERFYNU PENODIAD
YmddiswyddoLL+C
9Caiff y Comisiynydd ymddiswyddo os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Brif Weinidog Cymru heb fod yn llai na 3 mis cyn ymddiswyddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)
AnghymhwysoLL+C
10Mae person yn peidio â bod yn Gomisiynydd os yw'n cael ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I4Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)
DiswyddoLL+C
11Caiff Prif Weinidog Cymru ddiswyddo'r Comisiynydd os yw Prif Weinidog Cymru wedi ei fodloni o ran y Comisiynydd—
(a)nad yw'n ffit i barhau fel Comisiynydd, neu
(b)nad yw'n gallu neu nad yw'n fodlon arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I6Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)
Taliadau pan fydd yn peidio â dal y swyddLL+C
12Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad i berson sy'n peidio â dal swydd Comisiynydd os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod amgylchiadau arbennig yn ei gwneud hi'n iawn i'r person gael y taliad yn iawndal.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I8Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)