ATODLEN 10YMCHWILIAD Y COMISIYNYDD I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

(cyflwynwyd gan adran 71)

RHAN 1CYFFREDINOL

I31Cyflwyniad

Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ymchwiliadau o dan adran 71.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 10 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I102Cylch gorchwyl

1

Cyn cynnal ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd baratoi cylch gorchwyl yr ymchwiliad.

2

Rhaid i'r cylch gorchwyl bennu—

a

y person yr ymchwilir iddo (“D”),

b

y methiant a amheuir i gydymffurfio â gofyniad perthnasol.

3

Cyn setlo'r cylch gorchwyl, rhaid i'r Comisiynydd—

a

rhoi hysbysiad am y cylch gorchwyl arfaethedig—

i

i D, a

ii

i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant,

b

rhoi cyfle i bob person y rhoddir hysbysiad iddo ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig i wneud sylwadau ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig, ac

c

ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

4

Ar ôl setlo'r cylch gorchwyl (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (3)), rhaid i'r Comisiynydd—

a

cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymchwiliad mewn modd sy'n debygol, yn nhyb y Comisiynydd, o ddwyn yr ymchwiliad i sylw personau y mae a wnelo'r ymchwiliad â hwy neu bersonau sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a

b

hysbysu'r canlynol am y cylch gorchwyl—

i

D, a

ii

unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.

5

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw newid yn y cylch gorchwyl fel y byddai'r paragraff yn gymwys pe byddai'r newid yn y cylch gorchwyl yn gyfystyr â pharatoi'r cylch gorchwyl hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 10 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol gweler a. 156(2)

Sylwadau

I23

1

Rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau ar gyfer rhoi cyfle i bersonau i wneud sylwadau mewn perthynas ag ymchwiliadau.

2

Rhaid i'r trefniadau roi cyfle i'r personau canlynol i wneud sylwadau yn ystod ymchwiliad—

a

D, a

b

unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.

3

Caiff trefniadau o dan y paragraff hwn gynnwys, ymhlith pethau eraill, drefniadau ar gyfer sylwadau llafar.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 10 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I94

1

Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad—

a

gan D, neu

b

gan gynghorydd cyfreithiol sy'n gweithredu ar ran D.

2

Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad gan unrhyw berson arall onid yw'n briodol, yn nhyb y Comisiynydd, i wrthod gwneud hynny.

3

Os yw'r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y canlynol i'r person a wnaeth y sylwadau—

a

y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau, a

b

y rhesymau dros y penderfyniad.

4

Yn y paragraff hwn ystyr “cynghorydd cyfreithiol” yw—

a

person sydd, at ddibenion Deddf y Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig, neu'n gyfreithiwr Ewropeaidd sy'n berson esempt yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, mewn perthynas â gweithgaredd sy'n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno), neu

b

adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 10 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

RHAN 2GWYBODAETH, DOGFENNAU A THYSTIOLAETH LAFAR

Hysbysiadau tystiolaeth

I15

1

Yn ystod ymchwiliad, caiff y Comisiynydd roi hysbysiad tystiolaeth i berson (A).

2

Yn y Mesur hwn, ystyr “hysbysiad tystiolaeth” yw hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i A wneud un neu ragor o'r canlynol—

a

darparu gwybodaeth sydd ym meddiant A;

b

cyflwyno dogfennau sydd ym meddiant A;

c

rhoi tystiolaeth lafar.

3

Caiff hysbysiad o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth ynghylch—

a

y ffurf ar wybodaeth, ar ddogfennau neu ar dystiolaeth;

b

amseru unrhyw beth sydd i'w wneud yn unol â'r hysbysiad.

4

Ni chaniateir i hysbysiad o dan y paragraff hwn ei gwneud yn ofynnol i A wneud unrhyw beth na allai A gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.

5

Rhaid i hysbysiad o dan y paragraff hwn hysbysu A—

a

beth fydd y canlyniadau os na fydd A yn cydymffurfio â'r hysbysiad; a

b

am yr hawl i apelio o dan baragraff 9.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 10 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I56

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd person (B), yn ystod ymchwiliad—

a

yn darparu gwybodaeth,

b

yn cyflwyno dogfennau, neu

c

yn rhoi tystiolaeth lafar.

2

Caiff y Comisiynydd, os gwêl yn dda, dalu i B—

a

symiau mewn cysylltiad â threuliau a dynnwyd yn briodol gan B, a

b

lwfansau yn iawndal am i B golli amser.

3

Mae unrhyw daliad i B i'w wneud—

a

yn unol â graddfeydd y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd, a

b

yn ddarostyngedig i amodau y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 10 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Cyfrinachedd etc

I117

O ran hysbysiad o dan baragraff 5—

a

ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth y gwaherddir i'r person ei datgelu yn rhinwedd deddfiad, a

b

ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth na allai'r person hwnnw gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 10 para. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I78

1

Rhaid i A ddiystyru hysbysiad a roddir o dan baragraff 5, a rhaid iddo hysbysu'r Comisiynydd fod A yn ei ddiystyru, i'r graddau y mae A o'r farn y byddai'n ofynnol i A—

a

datgelu gwybodaeth sensitif o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaethau Cudd-wybodaeth 1994 (Y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch),

b

datgelu gwybodaeth a allai arwain at wybod pwy yw cyflogai neu asiant gwasanaeth cudd-wybodaeth (ac eithrio un y mae eisoes yn hysbys i'r Comisiynydd pwy ydyw),

c

datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion prosesau a ddefnyddir i recriwtio, dewis neu hyfforddi cyflogeion neu asiantau gwasanaeth cudd-wybodaeth,

d

datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion gwybodaeth sy'n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) neu na ellir yn ymarferol eu gwahanu oddi wrth yr wybodaeth honno, neu

e

datgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth ac a fyddai'n niweidiol i fuddiannau diogelwch gwladol.

2

Yn is-baragraff (1) ystyr “gwasanaeth cudd-wybodaeth” yw—

a

y Gwasanaeth Diogelwch,

b

y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol, ac

c

Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth.

3

Os bydd A yn hysbysu'r Comisiynydd o dan is-baragraff (1) uchod—

a

nid yw paragraffau 9 a 10 yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r hysbysiad o dan baragraff 5 y mae'r hysbysiad o dan is-baragraff (1) uchod yn ymwneud â hi,

b

caiff y Comisiynydd wneud cais i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad,

c

bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf honno yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y paragraff hwn fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y Ddeddf honno (gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol)—

i

adran 67(7), (8) a (10) i (12) (dyfarniad),

ii

adran 68 (gweithdrefn), a

iii

adran 69 (rheolau), a

d

rhaid i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o'r Ddeddf honno ddyfarnu achosion o dan y paragraff hwn drwy ystyried barn A yn unol â'r egwyddorion a gâi eu cymhwyso gan lys ar gais am adolygiad barnwrol ar roi'r hysbysiad.

4

Os daw gwybodaeth neu ddogfennau i law'r Comisiynydd oddi wrth wasanaeth cudd-wybodaeth neu'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth mewn ymateb i hysbysiad o dan baragraff 5, rhaid i'r Comisiynydd storio a defnyddio'r wybodaeth neu'r dogfennau'n unol ag unrhyw drefniadau a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 10 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Apelau

I49

Caiff A wneud cais i'r Tribiwnlys i ddileu'r hysbysiad o dan baragraff 5 ar y sail bod gofyniad a osodir gan yr hysbysiad—

a

yn ddiangen o ystyried pwrpas yr ymchwiliad, neu

b

yn afresymol neu'n anghymesur mewn modd arall.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 10 para. 9 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I610

Caiff A wneud cais i'r Tribiwnlys i ddileu'r hysbysiad o dan baragraff 5 ar y sail bod y gofyniad a osodir gan yr hysbysiad yn annymunol am resymau diogelwch gwladol, ac eithrio am y rheswm y byddai'n gofyn am ddatgelu gwybodaeth o'r math y mae paragraff 8(1) yn gymwys iddo.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 10 para. 10 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I811Gorfodi

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r Comisiynydd o'r farn bod A—

a

wedi methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5, neu

b

yn debygol o fethu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5.

2

Caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i A gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 10 para. 11 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

RHAN 3PŴER I FYND I MEWN AC I ARCHWILIO

I1212Pŵer i fynd i mewn ac i archwilio

1

Caiff y Comisiynydd, neu unrhyw berson a awdurdodir gan y Comisiynydd, fynd i mewn i fangre a'i harchwilio os bydd mynd i mewn ac archwilio'n angenrheidiol at ddibenion ymchwiliad yn nhyb y Comisiynydd neu'r person awdurdodedig.

2

Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4).

3

Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn—

a

i annedd, neu

b

i fangre nad yw o dan reolaeth y person yr ymchwilir iddo.

4

Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn i fangre ar adeg benodol os yw'n afresymol mynd i mewn ar yr adeg honno.