ATODLEN 10YMCHWILIAD Y COMISIYNYDD I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
RHAN 2GWYBODAETH, DOGFENNAU A THYSTIOLAETH LAFAR
I111Gorfodi
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r Comisiynydd o'r farn bod A—
a
wedi methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5, neu
b
yn debygol o fethu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5.
2
Caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i A gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad.