Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Cylch gorchwylLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

2(1)Cyn cynnal ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd baratoi cylch gorchwyl yr ymchwiliad.

(2)Rhaid i'r cylch gorchwyl bennu—

(a)y person yr ymchwilir iddo (“D”),

(b)y methiant a amheuir i gydymffurfio â gofyniad perthnasol.

(3)Cyn setlo'r cylch gorchwyl, rhaid i'r Comisiynydd—

(a) rhoi hysbysiad am y cylch gorchwyl arfaethedig—

(i)i D, a

(ii)i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant,

(b)rhoi cyfle i bob person y rhoddir hysbysiad iddo ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig i wneud sylwadau ynghylch y cylch gorchwyl arfaethedig, ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

(4)Ar ôl setlo'r cylch gorchwyl (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (3)), rhaid i'r Comisiynydd—

(a)cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymchwiliad mewn modd sy'n debygol, yn nhyb y Comisiynydd, o ddwyn yr ymchwiliad i sylw personau y mae a wnelo'r ymchwiliad â hwy neu bersonau sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a

(b)hysbysu'r canlynol am y cylch gorchwyl—

(i)D, a

(ii)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant.

(5)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw newid yn y cylch gorchwyl fel y byddai'r paragraff yn gymwys pe byddai'r newid yn y cylch gorchwyl yn gyfystyr â pharatoi'r cylch gorchwyl hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol gweler a. 156(2)

I2Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(h)