ATODLEN 10YMCHWILIAD Y COMISIYNYDD I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
RHAN 1CYFFREDINOL
I1I24Sylwadau
1
Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad—
a
gan D, neu
b
gan gynghorydd cyfreithiol sy'n gweithredu ar ran D.
2
Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad gan unrhyw berson arall onid yw'n briodol, yn nhyb y Comisiynydd, i wrthod gwneud hynny.
3
Os yw'r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymchwiliad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y canlynol i'r person a wnaeth y sylwadau—
a
y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau, a
b
y rhesymau dros y penderfyniad.
4
Yn y paragraff hwn ystyr “cynghorydd cyfreithiol” yw—
a
person sydd, at ddibenion Deddf y Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig, neu'n gyfreithiwr Ewropeaidd sy'n berson esempt yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, mewn perthynas â gweithgaredd sy'n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno), neu
b
adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.