Hysbysiadau tystiolaethLL+C
5(1)Yn ystod ymchwiliad, caiff y Comisiynydd roi hysbysiad tystiolaeth i berson (A).
(2)Yn y Mesur hwn, ystyr “hysbysiad tystiolaeth” yw hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i A wneud un neu ragor o'r canlynol—
(a)darparu gwybodaeth sydd ym meddiant A;
(b)cyflwyno dogfennau sydd ym meddiant A;
(c)rhoi tystiolaeth lafar.
(3)Caiff hysbysiad o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)y ffurf ar wybodaeth, ar ddogfennau neu ar dystiolaeth;
(b)amseru unrhyw beth sydd i'w wneud yn unol â'r hysbysiad.
(4)Ni chaniateir i hysbysiad o dan y paragraff hwn ei gwneud yn ofynnol i A wneud unrhyw beth na allai A gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.
(5)Rhaid i hysbysiad o dan y paragraff hwn hysbysu A—
(a)beth fydd y canlyniadau os na fydd A yn cydymffurfio â'r hysbysiad; a
(b)am yr hawl i apelio o dan baragraff 9.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 10 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 10 para. 5 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(h)