ATODLEN 10YMCHWILIAD Y COMISIYNYDD I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

RHAN 2GWYBODAETH, DOGFENNAU A THYSTIOLAETH LAFAR

Cyfrinachedd etc

7

O ran hysbysiad o dan baragraff 5—

(a)

ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth y gwaherddir i'r person ei datgelu yn rhinwedd deddfiad, a

(b)

ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth na allai'r person hwnnw gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.