Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Cyfrinachedd etcLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

8(1)Rhaid i A ddiystyru hysbysiad a roddir o dan baragraff 5, a rhaid iddo hysbysu'r Comisiynydd fod A yn ei ddiystyru, i'r graddau y mae A o'r farn y byddai'n ofynnol i A—

(a)datgelu gwybodaeth sensitif o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaethau Cudd-wybodaeth 1994 (Y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch),

(b)datgelu gwybodaeth a allai arwain at wybod pwy yw cyflogai neu asiant gwasanaeth cudd-wybodaeth (ac eithrio un y mae eisoes yn hysbys i'r Comisiynydd pwy ydyw),

(c)datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion prosesau a ddefnyddir i recriwtio, dewis neu hyfforddi cyflogeion neu asiantau gwasanaeth cudd-wybodaeth,

(d)datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion gwybodaeth sy'n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) neu na ellir yn ymarferol eu gwahanu oddi wrth yr wybodaeth honno, neu

(e)datgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth ac a fyddai'n niweidiol i fuddiannau diogelwch gwladol.

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “gwasanaeth cudd-wybodaeth” yw—

(a)y Gwasanaeth Diogelwch,

(b)y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol, ac

(c)Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth.

(3)Os bydd A yn hysbysu'r Comisiynydd o dan is-baragraff (1) uchod—

(a)nid yw paragraffau 9 a 10 yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r hysbysiad o dan baragraff 5 y mae'r hysbysiad o dan is-baragraff (1) uchod yn ymwneud â hi,

(b)caiff y Comisiynydd wneud cais i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad,

(c)bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf honno yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y paragraff hwn fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y Ddeddf honno (gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol)—

(i)adran 67(7), (8) a (10) i (12) (dyfarniad),

(ii)adran 68 (gweithdrefn), a

(iii)adran 69 (rheolau), a

(d)rhaid i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o'r Ddeddf honno ddyfarnu achosion o dan y paragraff hwn drwy ystyried barn A yn unol â'r egwyddorion a gâi eu cymhwyso gan lys ar gais am adolygiad barnwrol ar roi'r hysbysiad.

(4)Os daw gwybodaeth neu ddogfennau i law'r Comisiynydd oddi wrth wasanaeth cudd-wybodaeth neu'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth mewn ymateb i hysbysiad o dan baragraff 5, rhaid i'r Comisiynydd storio a defnyddio'r wybodaeth neu'r dogfennau'n unol ag unrhyw drefniadau a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 10 para. 8 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(h)