xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 10YMCHWILIAD Y COMISIYNYDD I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

RHAN 2GWYBODAETH, DOGFENNAU A THYSTIOLAETH LAFAR

Hysbysiadau tystiolaeth

5(1)Yn ystod ymchwiliad, caiff y Comisiynydd roi hysbysiad tystiolaeth i berson (A).

(2)Yn y Mesur hwn, ystyr “hysbysiad tystiolaeth” yw hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i A wneud un neu ragor o'r canlynol—

(a)darparu gwybodaeth sydd ym meddiant A;

(b)cyflwyno dogfennau sydd ym meddiant A;

(c)rhoi tystiolaeth lafar.

(3)Caiff hysbysiad o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y ffurf ar wybodaeth, ar ddogfennau neu ar dystiolaeth;

(b)amseru unrhyw beth sydd i'w wneud yn unol â'r hysbysiad.

(4)Ni chaniateir i hysbysiad o dan y paragraff hwn ei gwneud yn ofynnol i A wneud unrhyw beth na allai A gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan y paragraff hwn hysbysu A—

(a)beth fydd y canlyniadau os na fydd A yn cydymffurfio â'r hysbysiad; a

(b)am yr hawl i apelio o dan baragraff 9.

6(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd person (B), yn ystod ymchwiliad—

(a)yn darparu gwybodaeth,

(b)yn cyflwyno dogfennau, neu

(c)yn rhoi tystiolaeth lafar.

(2)Caiff y Comisiynydd, os gwêl yn dda, dalu i B—

(a)symiau mewn cysylltiad â threuliau a dynnwyd yn briodol gan B, a

(b)lwfansau yn iawndal am i B golli amser.

(3)Mae unrhyw daliad i B i'w wneud—

(a)yn unol â graddfeydd y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd, a

(b)yn ddarostyngedig i amodau y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd.

Cyfrinachedd etc

7O ran hysbysiad o dan baragraff 5—

(a)ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth y gwaherddir i'r person ei datgelu yn rhinwedd deddfiad, a

(b)ni chaniateir i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth na allai'r person hwnnw gael ei orfodi i'w wneud mewn achos gerbron yr Uchel Lys.

8(1)Rhaid i A ddiystyru hysbysiad a roddir o dan baragraff 5, a rhaid iddo hysbysu'r Comisiynydd fod A yn ei ddiystyru, i'r graddau y mae A o'r farn y byddai'n ofynnol i A—

(a)datgelu gwybodaeth sensitif o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaethau Cudd-wybodaeth 1994 (Y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch),

(b)datgelu gwybodaeth a allai arwain at wybod pwy yw cyflogai neu asiant gwasanaeth cudd-wybodaeth (ac eithrio un y mae eisoes yn hysbys i'r Comisiynydd pwy ydyw),

(c)datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion prosesau a ddefnyddir i recriwtio, dewis neu hyfforddi cyflogeion neu asiantau gwasanaeth cudd-wybodaeth,

(d)datgelu gwybodaeth a allai ddarparu manylion gwybodaeth sy'n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) neu na ellir yn ymarferol eu gwahanu oddi wrth yr wybodaeth honno, neu

(e)datgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth ac a fyddai'n niweidiol i fuddiannau diogelwch gwladol.

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “gwasanaeth cudd-wybodaeth” yw—

(a)y Gwasanaeth Diogelwch,

(b)y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol, ac

(c)Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth.

(3)Os bydd A yn hysbysu'r Comisiynydd o dan is-baragraff (1) uchod—

(a)nid yw paragraffau 9 a 10 yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r hysbysiad o dan baragraff 5 y mae'r hysbysiad o dan is-baragraff (1) uchod yn ymwneud â hi,

(b)caiff y Comisiynydd wneud cais i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad,

(c)bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf honno yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y paragraff hwn fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag achosion o dan y Ddeddf honno (gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol)—

(i)adran 67(7), (8) a (10) i (12) (dyfarniad),

(ii)adran 68 (gweithdrefn), a

(iii)adran 69 (rheolau), a

(d)rhaid i'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 65 o'r Ddeddf honno ddyfarnu achosion o dan y paragraff hwn drwy ystyried barn A yn unol â'r egwyddorion a gâi eu cymhwyso gan lys ar gais am adolygiad barnwrol ar roi'r hysbysiad.

(4)Os daw gwybodaeth neu ddogfennau i law'r Comisiynydd oddi wrth wasanaeth cudd-wybodaeth neu'n ymwneud â gwasanaeth cudd-wybodaeth mewn ymateb i hysbysiad o dan baragraff 5, rhaid i'r Comisiynydd storio a defnyddio'r wybodaeth neu'r dogfennau'n unol ag unrhyw drefniadau a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Apelau

9Caiff A wneud cais i'r Tribiwnlys i ddileu'r hysbysiad o dan baragraff 5 ar y sail bod gofyniad a osodir gan yr hysbysiad—

(a)yn ddiangen o ystyried pwrpas yr ymchwiliad, neu

(b)yn afresymol neu'n anghymesur mewn modd arall.

10Caiff A wneud cais i'r Tribiwnlys i ddileu'r hysbysiad o dan baragraff 5 ar y sail bod y gofyniad a osodir gan yr hysbysiad yn annymunol am resymau diogelwch gwladol, ac eithrio am y rheswm y byddai'n gofyn am ddatgelu gwybodaeth o'r math y mae paragraff 8(1) yn gymwys iddo.

Gorfodi

11(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r Comisiynydd o'r farn bod A—

(a)wedi methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5, neu

(b)yn debygol o fethu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff 5.

(2)Caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i A gymryd y camau y gellir eu pennu yn y gorchymyn i gydymffurfio â'r hysbysiad.