Anghymhwyso rhag bod yn aelod: anaddasrwyddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
14(1)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd os yw'r person—
(a)wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr ac yn parhau i fod yn fethdalwr;
(b)wedi cael gorchymyn rhyddhad o ddyled (o fewn ystyr Rhan VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986), a bod y cyfnod moratoriwm o dan y gorchymyn hwnnw'n parhau;
(c)wedi gwneud trefniant gyda'i gredydwyr a bod y trefniant yn parhau i fod mewn grym;
(d)wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd a'i fod wedi cael dedfryd o garchar (boed yn ataliedig neu beidio) am gyfnod heb fod yn llai na thri mis heb gael yr opsiwn o ddirwy;
(e)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru; neu
(f)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni.
(2)At ddibenion is-baragraff (1)(a) mae person yn parhau i fod yn fethdalwr—
(a)hyd oni chaiff y person ei ryddhau o fethdaliad, neu
(b)hyd oni chaiff y gorchymyn methdalu a wnaed yn erbyn y person hwnnw ei ddiddymu.
(3)At ddibenion is-baragraff (1)(c) mae trefniant person gyda'i gredydwyr yn parhau i fod mewn grym—
(a)hyd onid yw'r person yn talu ei ddyledion yn llawn, neu
(b)os yw'n hwyrach, hyd ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y mae telerau'r trefniant yn cael eu cyflawni.
(4)Os bydd y cwestiwn a yw person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd yn codi mewn perthynas â phenodi person yn aelod o'r Tribiwnlys, mae unrhyw gollfarn a gafodd y person hwnnw fwy na phum mlynedd cyn dyddiad y penodiad i'w diystyru.