ATODLEN 11TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

RHAN 2PENODI

I1I23Y Llywydd

1

Dim ond os yw'r person yn bodloni'r canlynol y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn Llywydd—

a

yr amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 10 mlynedd, a

b

unrhyw amodau eraill sy'n gymwys i'r penodiad ac a bennir yn y rheoliadau penodi.

2

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn Llywydd os yw'r person—

a

wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd, neu

b

wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi'n Llywydd ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol.

3

Mae Rhan 2 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 yn gymwys ar gyfer dyfarnu a yw person yn bodloni'r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 10 mlynedd fel pe bai'r paragraff hwn yn ddarpariaeth statudol (o fewn ystyr adran 50 o'r Ddeddf honno).