ATODLEN 11TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
RHAN 2PENODI
I1I25Aelodau lleyg
1
Dim ond os yw person yn bodloni unrhyw amodau sy'n gymwys i'r penodiad a bennir mewn rheoliadau penodi y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod lleyg.
2
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod lleyg—
a
os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd,
b
os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi'n aelod lleyg ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol, neu
c
os gellid penodi'r person yn aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.