Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Valid from 07/01/2014

Cyfnod y penodiadLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

8(1)Mae person a benodir yn aelod o'r Tribiwnlys yn aelod (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 5 mlynedd.

(2)Ond, os yw'n angenrheidiol neu'n hwylus yn nhyb Gweinidogion Cymru, caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys am gyfnod sy'n llai na 5 mlynedd.

(3)Mae'r paragraff hwn yn ddarostyngedig i Ran 3 o'r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)