ATODLEN 11TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

RHAN 1NIFER AELODAU'R TRIBIWNLYS

Aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith

1

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ddyfarnu nifer yr aelodau sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith y mae'r Tribiwnlys i'w cael.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn pennu'r nifer hwnnw.

(3)

I'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod nifer y personau sy'n gwasanaethu fel aelodau o'r Tribiwnlys ac sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn hafal i'r nifer a bennir o dan y paragraff hwn.

Aelodau lleyg

2

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd bennu nifer yr aelodau lleyg y mae'r Tribiwnlys i'w cael.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn pennu'r nifer hwnnw.

(3)

I'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod nifer y personau sy'n gwasanaethu fel aelodau lleyg o'r Tribiwnlys yn hafal i'r nifer a bennir o dan y paragraff hwn.