1(1)Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ddyfarnu nifer yr aelodau sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith y mae'r Tribiwnlys i'w cael.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn pennu'r nifer hwnnw.
(3)I'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod nifer y personau sy'n gwasanaethu fel aelodau o'r Tribiwnlys ac sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn hafal i'r nifer a bennir o dan y paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 11 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 11 para. 1 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)
2(1)Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd bennu nifer yr aelodau lleyg y mae'r Tribiwnlys i'w cael.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn pennu'r nifer hwnnw.
(3)I'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod nifer y personau sy'n gwasanaethu fel aelodau lleyg o'r Tribiwnlys yn hafal i'r nifer a bennir o dan y paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 11 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I4Atod. 11 para. 2 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)