ATODLEN 11TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
RHAN 4ANGHYMHWYSO RHAG BOD YN AELOD NEU RHAG CAEL EI BENODI
I1I613Anghymhwyso rhag bod yn aelod: cyflogaeth
1
Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth—
a
os yw'r person yn Aelod Seneddol;
b
os yw'r person yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
c
os yw'r person yn aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru;
d
os yw'r person yn aelod o staff Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
e
os ef yw'r Comisiynydd;
f
os ef yw'r Dirprwy Gomisiynydd;
g
os yw'r person yn unrhyw aelod arall o staff y Comisiynydd; neu
h
os yw'r person yn briod â pherson, neu'n bartner sifil i berson, sy'n dod o fewn paragraff (e), (f) neu (g).
I2I714Anghymhwyso rhag bod yn aelod: anaddasrwydd
1
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd os yw'r person—
a
wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr ac yn parhau i fod yn fethdalwr;
b
wedi cael gorchymyn rhyddhad o ddyled (o fewn ystyr Rhan VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986), a bod y cyfnod moratoriwm o dan y gorchymyn hwnnw'n parhau;
c
wedi gwneud trefniant gyda'i gredydwyr a bod y trefniant yn parhau i fod mewn grym;
d
wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd a'i fod wedi cael dedfryd o garchar (boed yn ataliedig neu beidio) am gyfnod heb fod yn llai na thri mis heb gael yr opsiwn o ddirwy;
e
wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru; neu
f
wedi ei anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni.
2
At ddibenion is-baragraff (1)(a) mae person yn parhau i fod yn fethdalwr—
a
hyd oni chaiff y person ei ryddhau o fethdaliad, neu
b
hyd oni chaiff y gorchymyn methdalu a wnaed yn erbyn y person hwnnw ei ddiddymu.
3
At ddibenion is-baragraff (1)(c) mae trefniant person gyda'i gredydwyr yn parhau i fod mewn grym—
a
hyd onid yw'r person yn talu ei ddyledion yn llawn, neu
b
os yw'n hwyrach, hyd ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y mae telerau'r trefniant yn cael eu cyflawni.
4
Os bydd y cwestiwn a yw person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd yn codi mewn perthynas â phenodi person yn aelod o'r Tribiwnlys, mae unrhyw gollfarn a gafodd y person hwnnw fwy na phum mlynedd cyn dyddiad y penodiad i'w diystyru.
I3I815Anghymhwyso rhag penodi: oedran
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd neu'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys os yw'r person eisoes wedi cyrraedd F175 oed ar ddyddiad y penodiad.
I4I916Anghymhwyso rhag penodi: penodiad blaenorol
1
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n Llywydd am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).
2
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod o'r Tribiwnlys wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).
3
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod lleyg ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n aelod lleyg am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).
I5I1017Anghymhwyso rhag penodi: diswyddiad blaenorol o swydd
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd neu'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys ar sail diswyddiad blaenorol os yw Gweinidogion Cymru wedi diswyddo'r person o'r Tribiwnlys yn flaenorol o dan baragraff 12.