ATODLEN 2YMHOLIADAU GAN Y COMISIYNYDD

(a gyflwynwyd gan adran 7)

I1I101Cyflwyniad

Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ymholiadau o dan adran 7.

Cylch gorchwyl

I2I112

Cyn cynnal ymholiad, rhaid i'r Comisiynydd baratoi cylch gorchwyl i'r ymholiad.

I3I123

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r cylch gorchwyl yn ymwneud â pherson penodol neu gategori o berson.

2

Rhaid i'r cylch gorchwyl bennu'r person hwnnw neu'r categori o berson.

3

Cyn setlo'r cylch gorchwyl, rhaid i'r Comisiynydd—

a

hysbysu pob person perthnasol o'r cylch gorchwyl arfaethedig,

b

rhoi cyfle i bob person perthnasol gyflwyno sylwadau am y cylch gorchwyl arfaethedig, ac

c

ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir.

4

Ar ôl setlo'r cylch gorchwyl (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (3)), rhaid i'r Comisiynydd—

a

cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymholiad mewn modd sydd yn nhyb y Comisiynydd yn debygol o ddwyn yr ymholiad i sylw personau y mae a wnelo'r ymholiad â hwy, neu sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a

b

hysbysu'r canlynol am y cylch gorchwyl—

i

pob person perthnasol, a

ii

Gweinidogion Cymru.

5

Yn y paragraff hwn ystyr “person perthnasol” yw—

a

person a bennir yng nghylch gorchwyl ymholiad, a

b

o ran categori o bersonau a bennir yng nghylch gorchwyl ymholiad, pob person y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn dod o fewn y categori hwnnw.

I4I134

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw'r cylch gorchwyl yn ymwneud â pherson penodol neu gategori o berson.

2

Rhaid i'r Comisiynydd—

a

cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymholiad mewn modd sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o ddwyn yr ymholiad i sylw personau y mae a wnelo'r ymholiad â hwy neu sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a

b

hysbysu Gweinidogion Cymru am y cylch gorchwyl.

I5I145

Mae paragraff 3 neu 4 yn gymwys i unrhyw newid yn y cylch gorchwyl fel y byddai'r paragraff yn gymwys pe byddai'r newid yn y cylch gorchwyl yn gyfystyr â pharatoi'r cylch gorchwyl hwnnw.

Sylwadau

I6I156

1

Rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau ar gyfer rhoi cyfle i bersonau wneud sylwadau mewn perthynas ag ymholiadau.

2

Rhaid i'r trefniadau roi cyfle i'r personau canlynol wneud sylwadau yn ystod ymholiad—

a

pob person—

i

a bennir yn y cylch gorchwyl, neu

ii

sy'n dod o fewn categori o berson a bennir yn y cylch gorchwyl, a

b

Gweinidogion Cymru.

3

Caiff trefniadau o dan y paragraff hwn gynnwys trefniadau ar gyfer sylwadau llafar ymysg pethau eraill.

I7I167

1

Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymholiad—

a

gan berson—

i

a bennir yn y cylch gorchwyl, neu

ii

sy'n dod o fewn categori o berson a bennir yn y cylch gorchwyl, neu

b

gan gynghorydd cyfreithiol sy'n gweithredu ar ran person sy'n dod o fewn paragraff (a)(i) neu (ii), neu

c

gan Weinidogion Cymru.

2

Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymholiad gan unrhyw berson arall, onid yw'n briodol, yn nhyb y Comisiynydd, i wrthod gwneud hynny.

3

Os yw'r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau a gyflwynir mewn perthynas ag ymholiad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y canlynol i'r person a gyflwynodd y sylwadau—

a

y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau, a

b

y rhesymau dros y penderfyniad.

4

Yn y paragraff hwn ystyr “cynghorydd cyfreithiol” yw—

a

person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig, neu'n gyfreithiwr Ewropeaidd sy'n berson esempt yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, mewn perthynas â gweithgaredd sy'n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno), a

b

adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.

I88Adroddiadau ar ymholiadau

I91

Rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad o'i ganfyddiadau ar unrhyw ymholiad.

2

Ni chaniateir i'r adroddiad—

I17a

ei gwneud yn hysbys beth yw'r methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol (o fewn ystyr Rhan 5) gan berson y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, neu

I9b

cyfeirio fel arall at weithgareddau person y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, oni bai bod y Comisiynydd o'r farn—

i

na fyddai'r cyfeiriad yn niweidio'r person, neu

ii

bod y cyfeiriad yn angenrheidiol er mwyn i'r adroddiad adlewyrchu canlyniadau'r ymholiad yn ddigonol (gan ystyried cylch gorchwyl yr ymholiad).

I93

Rhaid i'r Comisiynydd anfon drafft o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.

I94

Os yw'r cylch gorchwyl yn pennu person penodol neu gategori o berson, rhaid i'r Comisiynydd hefyd anfon drafft o'r adroddiad at bob person perthnasol.

I95

Rhaid i'r Comisiynydd—

a

rhoi cyfle i Weinidogion Cymru, ac i unrhyw berson arall yr anfonir drafft o adroddiad ato, i wneud sylwadau am yr adroddiad drafft, a

b

ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

I96

Ar ôl setlo'r adroddiad (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (5)), rhaid i'r Comisiynydd ei gyhoeddi.

I97

Nid yw'r paragraff hwn yn effeithio ar F1gymhwyso'r ddeddfwriaeth diogelu data i'r Comisiynydd.

I98

Yn y paragraff hwn—

  • F2mae i “y ddeddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “the data protection legislation” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o'r Ddeddf honno);

  • mae i “person perthnasol” yr un ystyr ag a roddir ym mharagraff 3.