xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynwyd gan adran 33)

ATODLEN 5LL+CY CATEGORÏAU O BERSON Y CANIATEIR EU HYCHWANEGU AT ATODLEN 6

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

Colofn 1Colofn 2
CofnodPerson/Categori
(1)Awdurdodau cyhoeddus.
(2)Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac a gafodd eu sefydlu drwy ddeddfiad.
(3)

Personau wedi eu sefydlu drwy offeryn uchelfreiniol—

(a)

i hybu dysg a gwybodaeth drwy addysgu neu ymchwilio neu drwy ddatblygu neu ddyfarnu cymwysterau,

(b)

i gasglu neu ddiogelu gwybodaeth gofnodedig, neu wrthrychau a phethau sy'n hybu dealltwriaeth, neu ddarparu mynediad at yr wybodaeth honno neu at y gwrthrychau a'r pethau hynny,

(c)

i gefnogi, gwella, neu hybu treftadaeth, diwylliant, chwaraeon neu weithgareddau hamdden, neu ddarparu mynediad atynt,

(d)

sy'n ymgymryd â hybu gwybodaeth ehangach am Gymru a chynrychioli buddiannau Cymru mewn gwledydd eraill, neu

(e)

sy'n ymgymryd â bancio canolog.

(4)Personau y mae swyddogaethau darparu gwasanaethau i'r cyhoedd wedi eu rhoi iddynt neu wedi eu gosod arnynt drwy ddeddfiad.
(5)

Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac sy'n derbyn cyfanswm o £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol—

(a)

pan fo'r person hwnnw wedi cael arian cyhoeddus hefyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol, neu

(b)

pan fo penderfyniad wedi ei wneud y bydd yn cael arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol ddilynol.

(6)Personau sy'n goruchwylio rheoleiddiad proffesiwn, diwydiant neu gylch cyffelyb arall o weithgaredd.
(7)Darparwyr tai cymdeithasol.
(8)Personau sy'n cydsynio i gael eu pennu yn Atodlen 6.

Cofnod (5): diwygio drwy orchymynLL+C

1(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio cofnod (5) yn y tabl drwy gyfnewid y swm perthnasol am unrhyw swm arall heb fod yn llai na £400,000.

(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “swm perthnasol” yw'r cyfanswm o arian cyhoeddus sydd o bryd i'w gilydd wedi ei nodi yng nghofnod (5) yn y tabl.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 5 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I3Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

Cofnod (8): dehongli etcLL+C

2At ddibenion cofnod (8) yn y tabl—

(a)ystyr “cydsyniad” mewn perthynas â pherson yw cydsyniad ysgrifenedig a roddir i Weinidogion Cymru gan y person;

(b)caniateir tynnu cydsyniad yn ôl, ond dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn cytuno i hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 5 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I5Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

DehongliLL+C

3Yn yr Atodlen hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 5 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I7Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)