(a gyflwynwyd gan adran 33)
ATODLEN 5Y CATEGORÏAU O BERSON Y CANIATEIR EU HYCHWANEGU AT ATODLEN 6
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Cofnod | Person/Categori |
(1) | Awdurdodau cyhoeddus. |
(2) | Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac a gafodd eu sefydlu drwy ddeddfiad. |
(3) | Personau wedi eu sefydlu drwy offeryn uchelfreiniol— (a) i hybu dysg a gwybodaeth drwy addysgu neu ymchwilio neu drwy ddatblygu neu ddyfarnu cymwysterau, (b) i gasglu neu ddiogelu gwybodaeth gofnodedig, neu wrthrychau a phethau sy'n hybu dealltwriaeth, neu ddarparu mynediad at yr wybodaeth honno neu at y gwrthrychau a'r pethau hynny, (c) i gefnogi, gwella, neu hybu treftadaeth, diwylliant, chwaraeon neu weithgareddau hamdden, neu ddarparu mynediad atynt, (d) sy'n ymgymryd â hybu gwybodaeth ehangach am Gymru a chynrychioli buddiannau Cymru mewn gwledydd eraill, neu (e) sy'n ymgymryd â bancio canolog. |
(4) | Personau y mae swyddogaethau darparu gwasanaethau i'r cyhoedd wedi eu rhoi iddynt neu wedi eu gosod arnynt drwy ddeddfiad. |
(5) | Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac sy'n derbyn cyfanswm o £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol— (a) pan fo'r person hwnnw wedi cael arian cyhoeddus hefyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol, neu (b) pan fo penderfyniad wedi ei wneud y bydd yn cael arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol ddilynol. |
(6) | Personau sy'n goruchwylio rheoleiddiad proffesiwn, diwydiant neu gylch cyffelyb arall o weithgaredd. |
(7) | Darparwyr tai cymdeithasol. |
(8) | Personau sy'n cydsynio i gael eu pennu yn Atodlen 6. |
Cofnod (5): diwygio drwy orchymyn
1(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio cofnod (5) yn y tabl drwy gyfnewid y swm perthnasol am unrhyw swm arall heb fod yn llai na £400,000.
(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “swm perthnasol” yw'r cyfanswm o arian cyhoeddus sydd o bryd i'w gilydd wedi ei nodi yng nghofnod (5) yn y tabl.
Cofnod (8): dehongli etc
2At ddibenion cofnod (8) yn y tabl—
(a)ystyr “cydsyniad” mewn perthynas â pherson yw cydsyniad ysgrifenedig a roddir i Weinidogion Cymru gan y person;
(b)caniateir tynnu cydsyniad yn ôl, ond dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn cytuno i hynny.
Dehongli
3Yn yr Atodlen hon—
ystyr “arian cyhoeddus” (“public money”) yw—
(a)arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy—
(i)Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(ii)Gweinidogion Cymru;
(iii)Senedd y DU;
(iv)Gweinidogion y Goron; neu
(v)un neu ragor o sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd;
(b)arian a ddarperir yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad;
ystyr “awdurdod cyhoeddus” yw pob awdurdod cyhoeddus sy'n dod o fewn ystyr “public authority” yn adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998.