I3ATODLEN 6CYRFF CYHOEDDUS ETC: SAFONAU

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

I1I22

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw awdurdod iechyd arbennig a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “Awdurdod Tân ac Achub” (“Fire and Rescue Authority”) yw awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw bwrdd iechyd lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “corff llywodraethu ysgolion” (“governing body of a school”) yw corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol F1... o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y'i hamnewidiwyd gan adran 140(1) a pharagraff 50 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “corfforaeth addysg bellach” (“further education corporation”) yw corfforaeth addysg bellach a sefydlwyd o dan adran 15 neu 16 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

  • ystyr “corfforaeth addysg uwch” (“higher education corporation”) yw corfforaeth addysg uwch a sefydlwyd o dan adran 121 neu 122 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988;

  • ystyr “cyd-bwyllgor awdurdod lleol” (“local authority joint committee”) yw cyd-bwyllgor o ddau neu ragor o'r canlynol—

    1. a

      cynghorau sir,

    2. b

      cynghorau bwrdeistref sirol, neu

    3. c

      cynghorau cymuned;

  • F5ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

  • ystyr “cyd-fwrdd awdurdod lleol” (“local authority joint board”) yw cyd-fwrdd, a dau neu ragor o'r canlynol yw ei aelodau—

    1. a

      cynghorau sir,

    2. b

      cynghorau bwrdeistref sirol, neu

    3. c

      cynghorau cymuned;

  • ystyr “Cyngor Iechyd Cymuned” (“Community Health Council” ) yw cyngor iechyd cymuned a sefydlwyd o dan adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “darparwr gwasanaethau gyrfaoedd” (“provider of career services”) yw person y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwneud trefniadau gydag ef (heb fod yn drefniadau sydd wedi dod i ben) o dan adran 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 (darparu gwasanaethau gyrfaoedd);

  • ystyr “Deddf” (“Act”) yw Deddf Senedd y DU neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • F2...

  • mae “Gweinidog y Goron” (“Minister of the Crown”) yn cynnwys y Trysorlys;

  • ystyr “Llais Defnyddwyr” (“Consumer Focus”) yw'r Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Defnyddwyr, Gwerthwyr Tai a Gwneud Iawn am Gamweddau 2007;

  • F4...

  • F3ystyr “Transport Focus” yw’r Cyngor Teithwyr a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheilffyrdd 2005;

  • ystyr “Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru” (“Agricultural Land Tribunal (Wales)”) yw'r tribiwnlys tir amaethyddol a sefydlwyd ar gyfer Cymru gan Orchymyn Tribiwnlysoedd Tir Amaethyddol (Ardaloedd) 1982;

  • ystyr “Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Trust”) yw un o ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gyfansoddwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.