I1ATODLEN 7Y CATEGORÏAU O BERSON Y CANIATEIR EU HYCHWANEGU AT ATODLEN 8
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Cofnod | Disgrifiad o'r person | Gwasanaeth(au) sydd ar gael |
(1) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau nwy, dŵr neu drydan (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu). |
|
(2) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion). |
|
(3) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau post neu swyddfeydd post. |
|
(4) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau telathrebu. |
|
(5) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd. |
|
(6) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd. |
|
(7) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd. |
|
(8) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau i ddatblygu neu i ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol. |
|
(9) | Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol. | Gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol. |
(10) | Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wnaed gydag awdurdod cyhoeddus. | Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd o dan y cytundeb, neu'n unol â'r trefniadau, a wnaed gyda'r awdurdod cyhoeddus. |
I5I1I31I1Gwasanaethau a ddarperir mewn siopau: eithriadau
1
Nid yw cyfeiriadau yn y tabl at “wasanaethau cysylltiedig” yn cynnwys gwasanaethau a ddarparir mewn siopau onid yw'r gwasanaethau hynny—
a
yn wasanaethau cownteri swyddfa'r post, neu
b
yn wasanaethau gwerthu tocynnau neu ddarparu amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd.
2
At y diben hwnnw, y canlynol yw'r cyfeiriadau yn y tabl at wasanaethau cysylltiedig—
a
yng ngholofn (3) ym mhob un o resi (1) i (8) yn y tabl, y cyfeiriadau ym mharagraff (b) bob tro at wasanaethau eraill, a
b
yng ngholofnau (2) a (3) yn rhes (9) yn y tabl, y cyfeiriadau at wasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol.
I2I4I12I1Dehongli
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “arian cyhoeddus” (“public money”) yw—
ystyr “awdurdod cyhoeddus” yw pob awdurdod cyhoeddus sy'n dod o fewn ystyr “public authority” yn adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998;
ystyr “gwasanaethau bysiau” (“bus services”) yw gwasanaeth rheolaidd â cherbyd gwasanaeth cyhoeddus (o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981) i gludo teithwyr am brisiau tocyn ar wahân, ac eithrio gwasanaeth—
- a
y mae capasiti cyfan y cerbyd ar gyfer y gwasanaeth hwnnw wedi ei brynu gan siartrwr at ei ddefnydd ei hun neu i'w ailwerthu;
- b
sy'n daith neu'n drip a drefnwyd yn breifat gan unrhyw berson sy'n gweithio'n annibynnol ar weithredwr y cerbyd; neu
- c
lle y mae'r teithwyr yn teithio gyda'i gilydd ar daith, gyda seibiannau neu hebddynt, a ph'un ai ar yr un diwrnod ai peidio, o un neu fwy o leoedd i un neu fwy o leoedd ac yn ôl;
- a
ystyr “gwasanaeth sylfaenol” (“primary service”) yw gwasanaeth sy'n dod o fewn paragraff (a) yng ngholofn (3) o unrhyw un neu ragor o resi (1) i (8);
ystyr “gwasanaethau post” (“postal services”) yw'r gwasanaeth o gludo llythyrau, parseli, pacedi neu bethau eraill o un man i fan arall drwy'r post a'r gwasanaethau cysylltiedig o dderbyn, casglu, sortio a danfon y cyfryw bethau;
ystyr “gwasanaethau telathrebu” (“telecommunications service”) yw unrhyw wasanaeth sy'n cynnwys darparu mynediad at, neu gyfleusterau i wneud defnydd o, unrhyw system sy'n bod (boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall) at y diben o hwyluso trosglwyddo cyfathrebiadau drwy unrhyw fodd sy'n golygu defnyddio ynni trydanol, magnetig neu electromagnetig (gan gynnwys y cyfarpar a geir yn y system), ond nid yw'n cynnwys darlledu, y radio na'r teledu;
ystyr “person neilltuedig” (“qualifying person”) yw person nad yw o fewn Atodlen 6;
ystyr “siop” (“shop”) yw unrhyw fangre, a masnach neu fusnes gwerthu nwyddau yw'r brif fasnach neu'r prif fusnes sy'n cael ei chynnal neu ei gynnal yno.
Atod. 7 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)