xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 01/04/2012
(cyflwynwyd gan adran 33)
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Person/Categori | Gwasanaeth(au) penodedig |
Personau neilltuedig sy'n gyflenwyr nwy trwyddedig. | Cyflenwi nwy i'r cyhoedd o dan y drwydded nwy berthnasol. |
Personau neilltuedig sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio'r penodiad hwnnw o dan adran 7 o'r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr dŵr dros Gymru gyfan neu unrhyw ran ohoni. | Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr dŵr ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni. |
Personau neilltuedig sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio'r penodiad hwnnw o dan adran 7 o'r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni. | Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni. |
Personau neilltuedig sy'n gyflenwyr trydan trwyddedig. | Cyflenwi trydan i'r cyhoedd o dan drwydded drydan berthnasol. |
Personau neilltuedig sy'n darparu swyddfeydd post i'r cyhoedd. | Darparu swyddfeydd post i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig, ac eithrio cyrff di-elw, sy'n darparu gwasanaethau post i'r cyhoedd. | Darparu gwasanaethau post i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau telathrebu i'r cyhoedd. | Darparu gwasanaethau telathrebu i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau bysiau i'r cyhoedd. | Darparu gwasanaethau bysiau i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr. | Darparu i'r cyhoedd wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr. |
Personau neilltuedig sy'n darparu addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd i'r cyhoedd. | Darparu addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd. | Darparu i'r cyhoedd wasanaethau i annog, i alluogi neu i gynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau datblygu neu ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol i'r cyhoedd. | Darparu gwasanaethau datblygu neu ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (“y gwasanaethau cysylltiedig”) sy'n gysylltiedig â gwasanaeth sy'n dod o fewn colofn (2) mewn unrhyw un neu ragor o'r cofnodion blaenorol yn y tabl hwn (y “gwasanaeth sylfaenol”), p'un ai hwy yw'r personau sy'n darparu'r gwasanaeth sylfaenol ai peidio. | Darparu'r gwasanaethau cysylltiedig i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wnaed gyda— (a) Gweinidogion Cymru, (b) un o Weinidogion y Goron, (c) un o adrannau'r llywodraeth, (d) person sy'n arfer ar ran y Goron swyddogaethau a roddwyd gan Ddeddf neu Fesur neu o dan Ddeddf neu Fesur, neu (e) cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru. | Darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan y cytundeb, neu'n unol â'r trefniadau hynny. |
1(1)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac yn Atodlen 7 (ac eithrio “gwasanaeth cysylltiedig” a “gwasanaeth sylfaenol”) yr un ystyron yn yr Atodlen hon ag yn Atodlen 7.
(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
2Mae cyfeiriadau at ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd yn cynnwys y canlynol (ond heb fod wedi eu cyfyngu i hynny)—
(a)darparu'r gwasanaeth i'r cyhoedd yn gyffredinol neu i aelodau penodol o'r cyhoedd, a
(b)darparu'r gwasanaeth at unrhyw ddiben (boed at ddiben domestig, busnes neu ddiben arall).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 8 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
3Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cyflenwr nwy trwyddedig” (“licensed gas supplier”) yw deiliad trwydded nwy berthnasol;
ystyr “trwydded nwy berthnasol” (“relevant gas licence”) yw trwydded o dan adran 7A o Ddeddf Nwy 1986.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 8 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
4Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cyflenwr trydan trwyddedig” (“licensed electricity supplier”) yw deiliad trwydded drydan berthnasol;
ystyr “trwydded drydan berthnasol” (“relevant electricity licence”) yw trwydded o dan adran 6(1)(d) o Ddeddf Trydan 1989.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 8 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
5Yn yr Atodlen hon ystyr “corff di-elw” yw person neu gorff arall—
(a)nad yw wedi ei gyfansoddi at ddibenion gwneud elw, neu
(b)y mae'n ofynnol iddo (ar ôl iddo dalu alldaliadau) gymhwyso'r cyfan o'i incwm, ac unrhyw gyfalaf y mae'n ei wario, at ddibenion elusennol neu gyhoeddus.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 8 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
6Yn yr Atodlen hon mae'r ymadrodd “gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr” yn cynnwys gwasanaethau i deithwyr a ddarperir ar reilffyrdd trên bach neu reilffyrdd dreftadaeth (ond nid yw wedi ei gyfyngu iddynt).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 8 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
7Yn yr Atodlen hon nid yw'r cyfeiriadau at “wasanaethau cysylltiedig” yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir mewn siopau, onid yw'r gwasanaethau hynny—
(a)yn wasanaethau cownteri swyddfa'r post, neu
(b)yn wasanaethau gwerthu tocynnau neu ddarparu amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 8 para. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)